Mae heddluoedd Cymru’n lansio ymgyrch heddiw i dynnu sylw at y cynnydd mewn lladrata metel.

“Mae’n fwy na dim ond metel” yw neges yr ymgyrch sy’n annog y cyhoedd i adrodd i’r heddlu os ydyn nhw’n gweld gweithwyr neu faniau amheus yn eu cymunedau.

Dros y blynyddoedd diwethaf mae pris metel wedi cynyddu’n sylweddol ar y farchnad fyd-eang, ac mae dwyn metel yn costio £770 miliwn i’r economi ym Mhrydain.

Pwysleisiodd arweinydd yr ymgyrch, y Dirprwy Prif Gwnstabl Matt Jukes, bod dwyn hyd yn oed ychydig o fetel neu gebl yn medru achosi poendod ac anhwylustod i bobl.

Mae’r heddlu’n annog pobl i guddio ysgolion a whilberi a fyddai’n hwyluso gwaith y lladron o gyrraedd at y metel.

Dim goleuadau ar y cae ymarfer

Ym mis Rhagfyr y llynedd bu’n rhaid i Ysbyty Llandochau, ym Mro Morgannwg, ohirio hyd at 50 o lawdriniaethau ar ôl i ladron ddwyn ceblau copr o eneradur wrth gefn yr ysbyty.

Un sydd a phrofiad o’r trafferthion gall dwyn metel ei achosi yw Cadeirydd Clwb Rygbi Aberdâr, Humphrey Evans.

Ym mis Hydref roedd lladron wedi dwyn copr o weiars goleuadau’r cae ymarfer yng nghanolfan hamdden Michael Sobell. O ganlyniad nid oedd timau ieuenctid ac oedolion y clwb yn medru ymarfer yn nosweithiau’r gaeaf.

“Dyw’r lladron hyn ddim yn becso dim am bobl eraill. Trachwant yw e”.