Mae gweinidog y Llywodraeth Maria Miller wedi bod  yn amddiffyn y penderfyniad “anodd ond pwysig” i  i leihau’r cymhorthdal presennol i Remploy a fydd yn golygu bod 1,500 o bobl anabl yn colli eu gwaith – gan gynnwys 272 yng Nghymru.

Wrth wneud cyhoeddiad annisgwyl yn y Senedd neithiwr yn dilyn beirniadaeth hallt gan Aelodau Seneddol, dywedodd Maria Miller nad oedd y sefyllfa yn “gynaliadwy”.

“Nid yw’r system bresennol yn defnyddio’r arian sydd ar gael mewn modd effeithiol. Yn ystod y cyfnod economaidd anodd yma, mae’n rhaid i ni edrych ar hynny yn ofalus iawn.

“Wrth wario’r arian mewn ffordd mwy effeithiol fe allai hyd at 8,000 o bobl anabl di-waith gael cymorth i ddod o hyd i waith.”

Mae Remploy yn bwriadu cau 36 o’r 54 ffatri yn y DU  gan arwain at ddiswyddo 1,752 o bobl, gan gynnwys 1,518 o weithwyr anabl.

Mae disgwyl i saith o’r naw o’u ffatrioedd gael eu cau yng Nghymru, sef Aberdâr, Abertyleri, Penybont, Croespenmaen, Merthyr Tudful, Abertawe a Wrecsam. Ond mae disgwyl i’w ffatrioedd yn y Porth a Chastell-Nedd gael eu cadw ar agor.

‘Colled sylweddol’

Dywedodd Maria Miller bod Remploy yn bwriadu cau’r safleoedd erbyn diwedd y flwyddyn, ac na fyddai’r Llywodraeth yn parhau i roi cymorth i’r ffatrïoedd hynny “sy’n gwneud colled sylweddol blwyddyn ar ôl blwyddyn.”

Ychwanegodd bod y gyllideb o £320 miliwn ar gyfer cyflogaeth i’r anabl yn ddiogel ac y byddai cymorth ar gael i’r rheiny oedd yn colli eu gwaith. Fe fydd bwrdd Remploy hefyd yn ystyried nifer o gynigion er mwyn  osgoi diswyddiadau gorfodol, meddai.

Beirniadaeth hallt

Ond yn Nhy’r Cyffredin neithiwr roedd na feirniadaeth hallt o’r modd y cafodd y newyddion ei gyhoeddi a dywedodd llefarydd ar ran pobl anabl yr wrthblaid Anne McGuire bod rhai o weithwyr Remploy wedi clywed y newyddion “ar ôl cael galwad ffôn gan eu Haelodau Seneddol.”

Ychwanegodd y byddai nifer o weithwyr Remploy yn ei chael hi’n anodd iawn i ddod o hyd i swydd arall. Cafodd y penderfyniad ei ddisgrifio’n  “galongaled” gan rai ASau.

Roedd Ann Clwyd, AS Llafur Cwm Cynon, wedi cyhuddo Maria Miller o’i chamarwain yn ystod eu trafodaethau diweddar am ddyfodol Remploy yn Aberdar – ond  gwadu hynny wnaeth Maria Miller.

Fe fu AS Llafur Rhondda, Chris Bryant, hefyd yn feirniadol iawn o’r ffordd “warthus” y cafodd y cyhoeddiad ei wneud.

‘Siomedig’

Ddoe, roedd Gweinidog Addysg a Sgiliau Cymru, Leighton Andrews, wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth San Steffan  gan ddweud ei fod yn “siomedig tu hwnt”.

Roedd na awgrym y gallai Llywodraeth Cymru fod yn edrych ar greu asiantaeth newydd, tebyg i Remploy Cymru, yn sgil cyhoeddiad San Steffan ddoe – ond dywedodd Leighton Andrews na fyddai’n briodol i wneud unrhyw sylwadau pellach ar y mater ar hyn o bryd.

“Rydw i wedi gofyn i Weinidog y DU am fanylion llawn ynglŷn â chefndir y penderfyniad hwn, gan gynnwys cyhoeddi unrhyw astudiaethau a wnaed ynglŷn ag ymarferoldeb y ffatrioedd,” meddai Leighton Andrews.

“Mae angen cael trafodaeth ar unwaith ynglŷn ag asedau Remploy yng Nghymru fel bod Llywodraeth Cymru yn gallu gweithio mewn ffordd ystyrlon gyda phobol anabl, yr undebau llafur perthnasol, ac eraill sy’n ceisio sefydlu mentrau cymdeithasol.”