Tori James
Yr antures Tori James fydd prif siaradwr digwyddiad sy’n cael ei gynnal gan Lywydd y Cynulliad heddiw i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched.
Thema’r digwyddiad fydd rôl menywod mewn gwasanaethau cyhoeddus, ac yn ogystal â darlith gan Tori James fe fydd panel trafod a fydd yn cynnwys Rheolwr Gyfarwyddwr Tinopolis, Angharad Mair, Ann Beynon o’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a Claire Clancy, sef Prif Weithredwr a Chlerc Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Tori James, sydd wedi anturio i Begwn y Gogledd, fydd yn rhoi’r ddarlith amser cinio. Yn 2007, hi oedd y fenyw ieuengaf o Brydain a’r fenyw gyntaf o Gymru i ddringo i gopa Mynydd Everest. Yn 2005, arweiniodd dîm o ferched yng nghystadleuaeth Her y Pegwn, sef ras 360 milltir i Begwn Magnetig y Gogledd.
“Mae’n wych cael rhywun mor ysbrydoledig â Tori i siarad yn ein digwyddiad i ddathlu Diwrnod y Menywod,” meddai Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
‘Anghyfartaledd’
Yn ôl Kate Bennett, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Cymru o’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, mae’r diwrnod yn gyfle i dynnu sylw at yr anghyfartaledd sy’n parhau yn ein cymdeithas.
“Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn gyfle i ddathlu’r cynnydd sydd wedi bod tuag at gydraddoldeb rhwng dynion a menywod.
“Mae’r diwrnod hefyd yn gyfle i bwysleisio’r gwaith sydd angen ei wneud o hyd os ydym am greu Cymru sydd yn hollol deg i fenywod.
Ychwanegodd: “Mae ein tystiolaeth yn dangos nad oes gan fenywod gynrychiolaeth ddigonol mewn swyddi uwch yng Nghymru ac mae gormod o fenywod wedi’u cyfyngu i swyddi sy’n talu cyflogau isel.”