Bydd protestwyr tanwydd yn teithio i Lundain heddiw i alw ar y Canghellor i leihau trethi ar danwydd, wrth i’r pris cyfartalog am litr o betrol gyrraedd 138 ceiniog.
Yn y brotest, sy’n cael ei threfnu gan FairFuel UK, bydd disgwyl i ymgyrchwyr lobïo Senedd San Steffan a chyflwyno adroddiad sy’n honni y bydd torri treth tanwydd o 2.5c y litr yn creu 180,000 o swyddi newydd.
Yn ddiweddar cyfarfu aelodau o FairFuel UK â Gweinidog y Trysorlys, Chloe Smith,
er mwyn rhannu canfyddiadau’r adroddiad gan y Ganolfan er ymchwil Economeg a Busnes.
Dywedodd llefarydd FairFuel UK, y cyflwynydd teledu a’r gwerthwr ceir Quentin Willson: “Rydym ni wedi rhannu canfyddiadau’r adroddiad gydag Aelodau Seneddol a gweinidogion. Fodd bynnag, gydag ond wythnosau tan y Gyllideb, rydym ni’n bryderus nad yw’r Llywodraeth yn gwrando ac yn gwerthfawrogi arwyddocâd y canfyddiadau.”
‘Lefelau creulon o dreth’
Ychwanegodd Quentin Willson: “Mae teuluoedd a busnesau yn cael eu gwasgu gan lefelau creulon o dreth – 82c am bob litr rydym ni’n prynu. Mae’n niweidio’r economi ac yn atal twf.
“Mae’r bobl yn ymbil ar y Llywodraeth i edrych ar dreth tanwydd. Mae’r ymchwil yma’n dangos na fyddai cwtogi’r dreth yn costio’r un geiniog i’r Trysorlys.”
‘Nid ateb tymor hir’
Mae Cyngor ar Bopeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ar dlodi trafnidiaeth yng Nghymru, dan y teitl Rhwystro Mynediad.
Dywedodd Alun Thomas o Gyngor ar Bopeth: “Mae effaith tlodi trafnidiaeth ar fywydau pobl yng Nghymru yn bellgyrhaeddol.
“Mae prisiau uchel tanwydd yn cael effaith enbyd ond nid yw Cyngor ar Bopeth o’r farn y bydd gostwng y dreth neu’r prisiau yn cynnig ateb tymor hir. Yn hytrach mae angen i ni gynnig dewisiadau trafnidiaeth fforddiadwy, hyblyg ac amgen i bawb.”