Fe fydd gweithwyr yn siopau John Lewis a Waitrose yn cael toriad yn eu bonws am y tro cyntaf ers tair blynedd heddiw wrth i’r cwmni ddioddef yn sgil yr hinsawdd economaidd llwm.
Fe gyhoeddodd Partneriaeth John Lewis, sydd â mwy na 75,000 o staff, taliadau bonws o 14% o’u cyflogau, o’i gymharu â 18% y llynedd.
Mae pob gweithiwr o fewn y bartneriaeth, gan gynnwys y cadeirydd Charlie Mayfield, yn derbyn yr un canran o’u cyflogaeth fel bonws.
Mae’r cwmni wedi cyhoeddi gostyngiad o 4% yn eu helw cyn treth i £353.8 miliwn ar ol i’w ymdrechion i ddenu mwy o gwsmeriaid drwy dorri prisiau gael effaith ar ei elw.