Lynne Neagle
Mae Aelod Cynulliad wedi rhybuddio y gallai’r mesur iechyd newydd yn Lloegr arwain at oblygiadau ariannol difrifol i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Yn ôl Lynne Neagle, AC Torfaen, fe fyddai’r newidiadau yn Lloegr yn arwain at lawer llai o arian i Gymru trwy fformiwla Barnett.
“Fe ddylai’r oblygiadau hynny fod ar flaen meddwl pob gwleidydd, pyndit a chlaf yng Nghymru,” meddai mewn erthygl ar wefan wleidyddol, Wales Home. “Rhaid i ni fod ar ein gwyliadwriaeth os yw’r Mesur yma’n mynd trwodd.
“R’yn ni eisoes wedi gweld y Torïaid yn chwalu cyllid cyfalaf Cymru – does dim pwynt esgus na fydden nhw’n taro Cymru eto o gael hanner cyfle.”
Mae’r AC hefyd wedi gwneud Datganiad Barn yn y Cynulliad ac wedi cael cefnogaeth yr holl aelodau Llafur yno.
Gwrthwynebiad
Mae’r Mesur yn cael ei drafod unwaith eto yn Nhŷ’r Arglwyddi lle mae yna wrthwynebiad eang iddo a nifer o welliannau wedi eu gwneud.
Ond, yn ôl Lynne Neagle, fe fyddai effaith ar gyrff iechyd sy’n gweithio yng Nghymru a Lloegr a nifer o’r rheiny’n debyg o gael eu dileu.
Mae sylwebyddion eraill wedi rhybuddio y byddai’r Mesur yn costio i Fyrddau Iechyd Cymru hefyd os ydyn nhw’n anfon cleifion tros y ffin.