Fe gyhoeddodd Heddlu’r Gogledd bod bachgen 18 oed fu mewn gwrthdrawiad ffordd ger y Rhyl ddydd Sadwrn wedi marw.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd yr A548 Y Rhyl, ger yr Orsaf Dân ychydig wedi 3.30am ddydd Sadwrn, 3 Mawrth.
Cafodd y bachgen ei gludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan gydag anafiadau difrifol ond bu farw ddydd Llun, 5 Mawrth.
Mae’r crwner wedi cael ei hysbysu.
Mae’r heddlu’n apelio ar unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw drwy ffonio 101.