Mae dyn o Gaerdydd wedi ei gael yn euog o ffugio bod yn fargyfreithiwr mewn llys y goron er mwyn cynrychioli ffrind roedd wedi ei gwrdd yn y carchar.

Fe lwyddodd David Sydney Evans o Benarth ger Caerdydd i fynd i ystafell newid ar gyfer bargyfreithwyr yn Llys y Goron Plymouth gan wisgo wig a gŵn, cyn mynd i weld ei “gleient” yn y celloedd.

Ond fe sylwodd y barnwr bod rhywbeth o’i le oherwydd ei wisg, a’r ffaith iddo wneud sawl cyflwyniad cyfreithiol oedd yn “gwbl anghywir”.

Cafwyd Evans, 57 oed, yn euog yn Llys y Goron Bryste o gynnal gweithredoedd cyfreithiol pan nad oedd ganddo hawl i wneud hynny.

Roedd Evans wedi cwrdd  â Terry Moss, y dyn roedd yn ceisio ei gynrychioli yn y llys, pan oedd yng ngharchar Dartmoor ar ol cael ei ddedfrydu o ddwyn arian drwy dwyll. Roedd Terry Moss wedi ei gyhuddo o dyfu canabis yn ei gartref yng Nghernyw.

Cafodd Evans ei ryddhau ar fechniaeth ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu  yn ddiweddarach yn y mis.