Philip Madoc
Mae’r actor o Gymro Philip Madoc wedi marw yn 77 oed, ar ôl cyfnod byr o salwch.
Daeth y newyddion am farwolaeth yr actor y prynhawn yma, ac mae pobol eisoes wedi dechrau talu teyrnged i’r gŵr o Ferthyr, gyda llawer yn cyfeirio ato fel un o’r “mawrion” ymhlith actorion Cymru, a’i gymeriadu “eiconig.”
Cafodd Philip Madoc yrfa hir ar y sgrîn ac yn y theatr, gan chwarae rhannau yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan gynnwys Dr Who, A Mind to Kill ar BBC Wales, Y Pris ar S4C, yn ogystal a sawl ffilm Saesneg.
Mae asiant Philip Madoc, Michael Hallet, bellach wedi cadarnhau fod yr actor 77 oed wedi marw y bore ’ma mewn ysbyty yn Swydd Hertford, gyda’i deulu gerllaw.
Dywedodd ei deulu y byddai’n cael “ei golli’n fawr gan ei fab, ei ferch, a’i wyron.”
Mewn datganiad, dywedodd y teulu eu bod yn ddiolchgar nad oedd wedi gorfod dioddef gormod yn ystod yr oriau olaf.
“Er ei fod yn dioddef o ganser, cafodd ofal da iawn gan staff Hospis Michael Sobell yn Northwood, ac mae ei deulu yn ddiolchgar iawn am hynny.
“Fe fu farw’n heddychlon yn ei gwsg, am 9am y bore ’ma.”
Plaid yn talu teyrnged
Ymhlith y teyrngedau i’r actor o Ferthyr heddiw y mae un gan Arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones.
“Roedd Philip Madoc yn actor gwych a ganddo lais bendigedig yn ogystal â bod yn gyfaill ymroddedig i Gymru,” meddai.
“Roedd yn gefnogwr brwd o Blaid Cymru ac roedd achos Cymru yn agos iawn i’w galon. Bob tro yr oeddwn yn ei gyfarfod, roedd wastad yn frwdfrydig am botensial Cymru fel cenedl ac yn benderfynol o wneud beth allai o i gefnogi gwaith y blaid.
“Bydd hefyd yn cael ei gofio am ei amryw rannau actio gwych, o ddramâu megis bywyd Lloyd George i gomedi pan fu’n chwarae rhan capten llong danfor Almaenaidd yn y bennod wych yna o Dad’s Army. Bydd colled enfawr ar ei ôl.”