Dafydd Du, Phillip Jones, Gai Toms ac Elin Fflur
Cân gan Gai Toms a Philip Jones enillodd Cân i Gymru eleni, gan dderbyn y wobr o £7,500 a thlws Cân i Gymru 2012.
Wrth dderbyn y wobr neithiwr am eu cân, Braf yw Cael Byw, dywedodd y canwr a’r cyfansoddwr Gai Toms y byddai’r arian yn help mawr wrth ddatblygu ei stwidio gerddoriaeth, ac yn llenwi’r bwlch am freindal cerddorion.
Bydd y gân, oedd yn cael ei pherfformio gan Gai Toms, nawr yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon.
Cydweithio
Mae Gai Toms wedi bod yn aelod o’r band Anweledig yn y gorffennol, ac mae hefyd wedi rhyddhau albyms ei hun, dan yr enw Mim Twm Llai yn wreiddiol ac yna dan yr enw Gai Toms. Mae Philip Jones yn aelod o’r grŵp Gwibdaith Hên Frân ac mae’r ddau yn hen gyfarwydd â chydweithio.
Daeth y gân Braf yw Cael Byw i’r brig neithiwr wedi iddi dderbyn y nifer uchaf o bleidleisiau, oedd yn gyfuniad o bleidlais ffôn y gwylwyr a sgôr gan y panel o feirniaid, sef Heather Jones, Alun ‘Sbardun’ Huws, Ynyr Roberts a Lisa Jên Brown.
Ond mae’r gân, a’r gystadleuaeth drwyddi draw, wedi denu ymateb cymysg gan wylwyr.
Y beirniaid ‘answyddogol’
Yn ystod y gystadleuaeth, a gafodd ei darlledu’n fyw ar S4C neithiwr, fe fu gwylwyr yn trydar eu barn ar wefan Twitter – rhai’n canmol, ond llawer iawn yn beirniadu.
Cafodd y gân fuddugol hefyd ei beirniadu, gyda rhai trydarwyr yn canmol yr enillydd am ei gyfraniad a’i gefnogaeth i gerddoriaeth yng Nghymru, ond yn beirniadu’r gân ddiweddaraf gan un sy’n adnabyddus am glasuron fel Tafarn yn Nolrhedyn, a Sunshine Dan.
“Neis gweld cerddor cynhyrchiol yn ennill,” oedd sylw un trydarwr, tra bod un arall yn dweud ei fod yn “falch bod yr arian yn mynd i achos da #StiwdioSbensh”, sef stiwdio gerddorol Gai Toms.
Ond, roedd eraill yn feirniadol iawn o’r gystadleuaeth a’r canlyniad, gan ddweud fod y cyfan yn “jôc”.
Ymateb i’r feirniadaeth
Heddiw, fe ymatebodd Gai Toms i’r beirniaid gyda neges ar ei dudalen Facebook: “Diolch am yr holl fygythiadau personol neithiwr gân wannabe ‘ol-fodernwyr’ ‘amgen’ heb gyfrifoldeba sy’n cuddio tu ol i sgrîn yn tweetio. Os genna chi wbath i ddeud, dewch draw a deud yn fy ngwynab,” meddai.
“Contradiction in terms yn gwylio’r rhaglen yn dechra ia? Dangos faint mor egwyddorol ydych i’ch crefft. Gobeithio bydd artistiaid go iawn efo’r intelligence i ddeall yr aberthion a’r ‘potential fformula’ wrth gystadlu.”
Derbyniwyd dros 120 o ganeuon ar gyfer y gystadleuaeth eleni, gydag wyth yn cael eu dewis i gystadlu yn y rownd derfynol – cyn i’r enillydd, Braf yw Cael Byw, gael ei gyhoeddi neithiwr.
Yn ail yn y gystadleuaeth eleni, ac yn derbyn gwobr o £2,000, oedd Rhydian Pugh gyda’r gân Cynnal y Fflam, ac yn drydydd roedd Nia Davies Williams a Sian Owen gyda’r gân Cain, gan dderbyn gwobr o £1,000.