Mae gobaith y bydd un o brif wyliau cerddorol Cymru yn cael ei chynnal eleni wedi’r cyfan.

Mae Cyfeillion Gŵyl Jazz Aberhonddu wedi hysbysebu am drefnwyr i gynnal digwyddiad yn y dre’ yn ystod mis Awst.

Roedd hi’n ymddangos bod dyfodol yr ŵyl mewn peryg ar ôl i’r trefnwyr blaenorol, Gŵyl y Gelli Gandryll, gyhoeddi’n annisgwyl eu bod yn rhoi’r gorau i’r gwaith.

Os bydd gŵyl eleni, fe fydd hi’n troi cefn ar lawer o’r newidiadau yr oedd Gŵyl y Gelli wedi eu gwneud, gan droi’n ôl at ddefnyddio adeiladau ar hyd a lled y dref, yn hytrach na chanolbwyntio ar un lleoliad yn yr ysgol fonedd.

Fe fydden nhw hefyd yn ystyried atgyfodi’r syniad o docyn crwydrol, a oedd wedi ei ddileu gan y trefnwyr diwetha’.

Yn ôl Cadeirydd y Cyfeillion, Mike Talbot, mae nifer o gyrff “creadwy” yn paratoi cynigion i drefnu’r  ŵyl ac mae ganddyn nhw hyd at ddiwedd mis Mawrth i wneud cais.