Bryn Fôn - artist diweddaraf gig '50'
Mae trefnwyr gig hanner canmlwyddiant Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi mai Bryn Fôn yw’r artist diweddaraf sy’n ymuno â’r amserlen.

Yn ogystal â hynny, mae tocynnau’r gig ar gael i’w prynu ers pnawn ddoe (1 Mawrth) am £25 – mae’r digwyddiad yn llwyfannu 50 o artistiaid dros ddeuddydd ar 13-14 Gorffennaf eleni.

Ers cyhoeddi trefniadau’r gig yr Eisteddfod Genedlaethol llynedd, mae’r Gymdeithas wedi bod yn enwi un artist newydd sy’n perfformio pob wythnos ers hynny.

Ymysg y 30 sydd wedi eu henwi hyd yn hyn mae Gruff Rhys, Yr Ods, Meic Stevens a Gai Toms ymysg.

Cyd ddathlu

Mae Bryn Fôn yn credu bydd y digwyddiad, a gynhelir yn y Pafiliwn ym Mhontrhydfendigaid, yn un cofiadwy iddo am sawl rheswm.

“Fel un sydd wedi bod mewn band ers dros 35 o flynyddoedd, dwi’n teimlo fel cyd ddathlu hefo’r Gymdeithas …  mae’n teimlo fel 50 i mi ’fyd!” meddai Bryn Fôn.

“Rwyf wedi bod yn dyst i sawl ‘noson fawr ‘ yn y gorffennol, ond mae’n debyg y bydd y gig i ddathlu’r 50 yn uchafbwynt i unrhyw un sydd â diddordeb mewn canu Cymraeg.”

Mae gan Bryn Fôn gysylltiadau ac atgofion arbennig o ardal Pontrhydfendigaid hefyd.

“Wrth gwrs, bydd hefyd yn grêt cael mynd nôl i’r Bont i weld hen ffrindiau o fy nyddiau yn chwarae pêl-droed i’r pentre’.”

Mae tocynnau’r penwythnos bellach ar werth ar  wefan y digwyddiad.

Mae’r trefnwyr yn cyhoeddi enw un perfformiwr newydd pob wythnos ar y cyfrif Twitter  @hannercant.