Rosemary Butler
Mae Llywydd y Cynulliad wedi galw am ddadl ynglŷn â gostwng yr oed pleidleisio i 16 oed yng Nghymru.

Wrth siarad ar Sunday Politics Wales, dywedodd Rosemary Butler fod pobol 16 oed yn gyflogedig ac yn talu treth ac felly fe ddylen nhw gael pleidleisio.

Mae plaid yr SNP yn yr Alban hefyd wedi dweud y dylai pobol 16 ac 17 oed gael pleidleisio yn y refferndwm ar annibyniaeth yno.

Ar Ynys Manaw ac ynys Jersey roedd pobol eisoes yn cael pleidleisio yn 16 oed, meddai Rosemary Butler.

“Mae angen annog i bawb bleidleisio fel bod gennym ni fandad go iawn,” meddai.,

“Mae gan bobol sy’n 16 oed yn sicr y gallu i bleidleisio. Mae’n fater arall os oes ganddyn nhw’r hyder i wneud hynny, ond mae’r un peth yn wir am y boblogaeth yn ei gyfanrwydd.”