Caryl Parry Jones
Mae’r gantores, y gyflwynwraig a’r gyfansoddwraig Caryl Parry Jones wedi ymddiheuro i’w dilynwyr ar wefan gymdeithasol Twitter am drydariad dadleuol ynglŷn â’r Saeson ar ôl buddugoliaeth tîm rygbi Cymru yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn.

Gwnaed y sylwadau gan y gyflwynwraig wedi gêm agos iawn a welodd Cymru’n cipio’r Goron Driphlyg ddydd Sadwrn, gan guro’r Saeson o 19 i 12.

Ond ddoe fe ymddiheurodd Caryl Parry Jones i’w 1,800 o ddilynwyr am ei sylwadau, ar ôl iddi godi gwrychyn ambell un gyda’i sylw ymfflamychol.

Wedi dileu’r neges wreiddiol, fe drydarodd neges o ymddiheuriad brynhawn ddoe:

“Ymddiheuriadau am tweet ddoe. Cafodd ei wneud yng ngwres y funud ar ôl gem rwystredig iawn ond roedd yn beth dwl i’w wneud. Sori.”

Esbonio’r sefyllfa

Wrth siarad â Golwg 360 heddiw, dywedodd Caryl Parry Jones, sy’n gefngowr rygbi frwd, fod yr ymddiheuriad yn esbonio’r sefyllfa.

“Doedd y sylw ddim yn cyfeirio at y genedl gyfan,” meddai, “dim ond at y bobol wnaeth rwystro’n nhîm i rhag chwarae’r rygbi yr oedden nhw’n gallu ’i chwarae.”

Un o’r rhai a welodd chwith yn y sylwadau oedd Carwyn Tywyn, sy’n wreiddiol o Gaerlŷr, ond yn byw ac yn gweithio yng Nghymru ers blynyddoedd bellach.

Wrth siarad â Golwg 360 heddiw, dywedodd Carwyn Tywyn ei fod yn falch o weld fod y neges bellach wedi cael ei dileu.

“Dywedwyd rhywbeth byrbwyll iawn ar ddiwedd y gêm,” meddai Carwyn Tywyn.

“Ond os yw’r sylw wedi cael ei dynnu’n ôl, wel dyna ddiwedd y mater.”

Ond nid Carwyn Tywyn oedd yr unig un i weld ochr mwy difrifol y sylwadau.

Ymateb i’r sylwadau

Dywedodd un sy’n trydar dan yr enw @gavinboyo nad oedd yn cytuno gyda’i sylw o gwbwl:

“Shwr bydde digon ’da ti weud os bydde tweet fel ’na wedi anelu at y Gymraeg!”

Mae eraill wedi achub cam y gyflwynwraig foreol ar Radio Cymru, gan ddweud nad oes angen ymddiheuro, a bod “rygbi’n neud hynny i bobl!”

Ond wrth siarad â Golwg 360 heddiw, dywedodd Carwyn Tywyn bod angen meddwl mwy cyn gwneud sylwadau o’r fath ar wefannau cymdeithasol fel Twitter.

“Er mwyn i Gymru symud ymlaen fel cenedl, ac i Loegr symud ymlaen, does dim angen dangos anwybodaeth fel hyn.”