Charlotte Church
Mae Charlotte Church a’i rhieni wedi derbyn iawndal gwerth £600,000 ac ymddiheuriad yn yr Uchel Lys heddiw, fel rhan o’r achos dros hacio ffonau gan newyddiadurwyr.

Yr wythnos ddiwetha’, fe gadarnhaodd cyfreithwyr ar ran y gantores 25 oed a’i rhieni, James a Maria, eu bod wedi dod i gytundeb gyda chyhoeddwyr y News of the World, News Group Newspapers (NGN).

Roedd Charlotte Church yn bresennol yn y llys yn Llundain ar gyfer darllen y datganiad oedd yn dod â’r achos yn erbyn y papur i ben heddiw.

Clustfeinio

Roedd yr achos yn ymwneud â honiadau bod 33 o erthyglau a ysgrifenwyd gan y papur dydd Sul, sydd bellach wedi dod i ben, wedi eu hysgrifennu o ganlyniad i glustfeinio ar negeseuon ffôn.

Roedd Charlotte Church hefyd yn honni bod yr erthyglau wedi cael effaith negyddol ar fusnes y teulu a iechyd ei mam.

Mae’r iawndal a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys £300,000 o gostau cyfreithiol ac ymddiheuriad cyhoeddus.

Mae 50 o achosion yn erbyn News Group Newspapers  bellach wedi dod i gytundeb. Ond mae’n debyg bod NGN bellach yn wynebu cais  gan Cherie Blair, gwraig y cyn-Brif Weinidog Tony Blair, yn dilyn honiadau bod newyddiadurwyr wedi clustfeinio ar ei negeseuon ffôn.

‘Church wedi ffieiddio’

Wrth siarad wedi’r achos heddiw, dywedodd Charlotte Church ei bod wedi ei “ffieiddio” gyda’r hyn a ddatgelwyd yn ystod ei hachos gyfreithiol yn erbyn News International.

Mewn datganiad tu allan i’r Llys heddiw, dywedodd y gantores na fyddai arian byth yn gallu gwneud iawn am y niwed a wnaed iddi hi a’i theulu, ond ei bod yn bwriadu rhoi arian yr iawndal tuag at ddiogelu ei hun a’i phlant rhag rhagor o ymyrraeth ar eu bywyd preifat.

“Mae heddiw’n ddiwrnod pwysig i fi a fy nheulu. Dwi wedi dwyn yr achos hwn  gyda’n neulu, fel y mae nifer wedi gwneud, gan ein bod ni eisiau darganfod y gwir am yr hyn wnaeth y grŵp papur newydd er mwyn cael gafael ar straeon am ein teulu.

“Mae’r hyn dwi wedi ei ddarganfod wrth i’r achos fynd yn ei flaen wedi fy ffieiddio. Doedd dim byd yn cael ei ystyried yn anaddas i’r rheiny oedd yn fy erlid i a fy nheulu, jyst er mwyn gwneud arain ar gyfer cwmni newyddion rhyngwladol.”

Poenydio ei theulu

Dywedodd Charlotte Church bod ei rhieni wedi dioddef gymaint â hi yn eu triniaeth gan y cwmni.

“Maen nhw wedi cael eu poenydio, wedi cael eu gwylio, a chafodd fy mam ei bwlio i ddatgelu ei chyflwr meddygol personol a hynny dim ond oherwydd y ffaith mai nhw oedd fy rhieni.”

Dywedodd ei bod yn “hapus” gyda’r canlyniad, ond er gwaetha’r ymddiheuriad, dywedodd bod yr achos wedi profi bod “y pobol hyn yn fodlon gwneud unrhywbeth i fy atal i rhag datgelu eu hymddygiad.”

Dywedodd y gantores nad oedd hi’n ymddangos fod y papur wedi “dysgu dim” ac nad oeddan nhw’n edifar am eu hymddygiad.

Dywedodd y gantores heddiw ei bod hi nawr yn bwriadu canolbwyntio ar helpu’r ymchwiliad troseddol, a’r Arglwydd Ustus Leveson gyda’i ymchwiliad, yn ogystal ag eraill sy’n ceisio dod a’r rheiny fu’n gyfrifol am yr hacio ffonau i gyfri.