Mae ffigyrau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos fod 8,283 o gleifion wedi gorfod aros dros bedair awr i gael triniaeth mewn adrannau damweiniau ac argyfyngau ar draws Cymru ym mis Ionawr.
Mae’r ffigyrau hefyd yn dangos fod 2,555 yn dal heb eu trin ar ôl wyth awr o aros – sef yr amser darged eithaf ar gyfer gorfod aros am driniaeth frys.
Cafodd y ffigyrau eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru heddiw, ac mae’n nhw dangos dirwyiad ym mherfformiad y gwasanaeth o fewn y ddau darged o’u cymharu â’r mis blaenorol.
‘Anwybyddu’r ffigyrau’
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu’r ffigyrau hyn yn llym heddiw, gan ddweud ei bod hi’n anodd osgoi’r teimlad o “déjà vu, pan fod y Llywodraeth yn cyhoeddi’r ffigyrau yma bob mis, ac yna’n eu hanwybyddu’n llwyr.”
Yn ôl llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar iechyd, Darren Millar AC, mae angen i’r “Gweinidog Iechyd gydnabod nad yw’r ffigyrau hyn yn ddigon da, ac yn rhoi cynllun yn ei le i ddelio â nhw unwaith ac am byth.
“Mae miloedd o bobol yn gorfod aros yn hirach nag y dylien nhw, ac yn hirach yn sicr na’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ei gredu sy’n ddiogel ac yn dderbyniol.
“Bydd nifer o’r rhain yn bobol ifanc a hen, y bregus a’r rhai sy’n dioddef salwch cronig.
“Dylien nhw, o bawb, ddim gorfod diodde’r gofid hwn,” meddai.
Ymateb y Llywodraeth
Ond wrth gyhoeddi’r ffigyrau hyn heddiw, mae’r Llywodraeth yn dweud fod ffigyrau’r gaeaf yn dueddol o fod yn waeth na ffigyrau’r haf, gan fod mwy o alw ar y gwasanaeth iechyd.
“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae perfformiad yn erbyn y targedau wedi tueddu i ddisgyn dros fisoedd y gaeaf ac yna codi tan ddiwedd misoedd yr haf,” meddai’r Llywodraeth heddiw.
Mae’r ffigyrau yn dangos fod 89.3% o gleifion wedi gorfod aros llai na phedair awr rhwng cyrraedd a chael eu gweld o ystyried pob adran gofal brys yn ysbytai Cymru.
Mae’r Llywodraeth hefyd yn dweud mai dim ond 3.3% o gleifion oedd wedi gorfod aros dros wyth awr i gael eu gweld yn holl adrannau gofal brys ysbystai Cymru.