Gareth Jones a George Lamb
Bydd ffermwr o Ogledd Cymru yn ymddangos fel un o’r beirniaid ar raglen dalent i’r ifanc y BBC y penwythnos hwn, gyda’r cyflwynydd George Lamb wrth y llyw.

Bydd Gareth Jones o Lanfairfechan yn camu i fwrdd y beirniaid nos Sul, er mwyn beirniadu’r talent gorau yn niwydiant amaeth y Deyrnas Unedig.

Mae’r rhaglen yn rhan o gyfres o raglenni ar BBC 3 sy’n ceisio dod o hyd i dalentau gorau’r DU mewn meysydd fel pobi, teilwra, gwaith coed, garddio ac, yn achos Gareth Jones, ffermio.

Dewis ffermwr ifanc gorau’r DU fydd tasg derfynol y gyfres. Fe fydd Gareth Jones  yn un o’r beirniaid ynghyd a Dave Finkle, rheolwr fferm Jimmy’s Farm.

‘Gwaed, crio a ffraeo’

Yn ôl Gareth Jones, prif bwyslais y rhaglen yw profi cystadleuwyr ar eu sgiliau ymarferol – ac er bod rhai cwestiynau theori yn cael eu cynnwys – bydd digon o “waed, crio a ffraeo” wrth i’r cystadleuwyr ymgymryd â thasgau bob-dydd y fferm, fel cneifio defaid.

“Fyswn i’m yn gwneud y rhaglen oni bai bod o’n ‘hands on’, yn profi pobol ifanc ar y petha dwi’n eu gwneud bob dydd fel ffermwr,” meddai Gareth Jones wrth Golwg 360.

Gwnaeth 100 o bobol ifanc rhwng 16-25 oed gais i gystadlu am ffermwr ifanc y flwyddyn eleni, ond ar ôl cyfres o brofion, tasgau a chyfweliadau, mae’r beirniaid wedi dewis pedwar i ymddangos yn y rhaglen derfynol.

Cymro ymhlith y pedwar ola’

Ac mae Gareth Jones wedi datgelu wrth Golwg 360 heddiw fod un Cymro o Gastell Nedd ymhlith y pedwar ola’.

“’Da’n ni’n chwilio am rhywun all fynd allan yno a siarad dros y diwydiant,” meddai Gareth Jones, sydd ei hun wedi ymddangos mewn rhaglen debyg, pan fu’n cystadlu yng nghyfres gyntaf Fferm Ffactor ar S4C.

“Dwi’n siwr mod i’n dod drosodd fel dyn caled wrth feirniadu, ond mae’r diwydiant yn galed. You can’t take any prisoners on the farm, dwi’n dweud wrthyn nhw.”


Gareth Jones ar ei fferm
Gobeithiol am ddyfodol amaeth

Ond mae’r gystadleuaeth, a’r diwydiant, wedi rhoi ffydd i Gareth Jones yn nyfodol amaethu yng Nghymru, meddai wrth Golwg 360 heddiw.

“Mae ffermwyr wedi bod mewn dirwasgiad parhaol dros y 25 mlynedd diwethaf,” meddai.

“Mae’r diwydiant wedi cael llawer iawn o gyhoeddusrwydd gwael dros yr amser, rhwng y BSE a’r clwy traed a’r genau a’r ofnau ynglyn ag wyau, heb sôn am yr holl fewnforio bwyd o dramor.

“Ond mae pobol yn dechrau sylweddoli gwerth cynnyrch Prydeinig erbyn hyn dwi’n meddwl,” meddai.

“Mae mwy o barch i ni fel ffermwyr, a dwi’n reit ffyddiog nad oes gan yr un wlad arall yn y byd y safon o gynnyrch sydd ganddon ni fan hyn ym Mhrydain.”

Bydd ‘Young Talent’ yn cael ei darlledu ar BBC3 am 8pm nos Sul yma, lle byddan nhw’n datgelu pwy sy’n ennill teitl Ffermwr Ifanc 2012.