Minnie Driver yn y ffilm Hunky Dory
Mae dau fyfyriwr chweched dosbarth wedi ennill cystadleuaeth oedd yn rhoi’r cyfle iddyn nhw gyfweld â sêr y ffilm newydd ‘Hunky Dory’.

Yn ogystal â chyfweld y cyfarwyddwr Marc Evans a’r seren Hollywood Minnie Driver, cafodd y ddau’r cyfle i droedio’r carped coch yn y premiere Cymreig yng Nghaerdydd neithiwr.

Mae Ronnie Driver, tad Minnie, yn ddyn busnes Cymreig o Abertawe, ac roedd Minnie Driver wedi datgan ei hoffter o Gymru, yr acen Gymreig a’r iaith Gymraeg.

Cafodd y ddau enillydd – Ashley Evans, 17, sy’n fyfyriwr yn Ysgol Gyfun Gwyr, Abertawe a Connor Ford, 16, o Ysgol Lewis Pengam yng Nghaerffili – gyfle i ffilmio eitem fideo ar gyfer safle we Filmclub oedd wedi cynnal y gystadleuaeth, ac wedi cyfweld â chast ifanc y ffilm ar y carped coch neithiwr.

Roedd Kimberley Nixon, yr actores sy’n chwarae rhan Josie yn y gyfres ‘Fresh Meat’ hefyd yn y premiere, ac yn siarad gyda’r ddau.

Ymuno â’r sêr ar y carped coch

“Ddydd Llun, mi ges i’r anrhydedd o fynd i wylio ffilm ‘Hunky Dory’ mewn dangosiad i’r wasg,” meddai Ashley Evans wrth Golwg 360.

“Ar ôl i mi ddarganfod mai ffilm gerddorol iawn oedd hi, roeddwn i bach yn amheus mai rhywbeth tebyg i ‘High School Musical’ oedd hi’n mynd i fod, ond mi ges i fy mhlesio’n fawr.

“Roedd y gerddoriaeth yn gymysgedd o bop, roc a chlasurol, a chaneuon sy’n siŵr o fod yn adnabyddus i ni gyd. Roedd yr actorion wedi dyfeisio cymeriadau credadwy a real, a chawn wir fewnwelediad i fywyd Abertawe yn y 70au. Ffilm gwerth ei gweld? Yn bendant!”

Filmclub yng Nghymru

Mae’r elusen Filmclub wedi bod yn lwyddiant yn ysgolion yn Lloegr, ac mae Non Stevens eisoes yn gweithio ar sefydlu Filmclub yng Nghymru.

Bwriad yr elusen yw annog myfyrwyr i wylio ac i drafod ffilm trwy rwydwaith sy’n cydweithio gydag ysgolion unigol ledled Cymru.

Mae Filmclub yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ac yn gweithio mewn partneriaeth gydag Asiantaeth Ffilm Cymru, S4C a Llenyddiaeth Cymru.

“Mae Filmclub Cymru yn annog ysgolion i gynnal clybiau ffilm yn eu hysgolion ac annog pobl ifanc Cymru i wylio amrediad eang o ffilmiau gwahanol,” dywedodd Non Stevens.

“Heddiw, fel rhan o’n gweithgareddau rhyngweithiol a chyffrous yng Nghymru fe gafodd dau o aelodau Filmclub Cymru gyfle arbennig i gyfweld â Minnie Driver a Marc  Evans cyn premiere Hunky Dory.

“Bu’r bechgyn hefyd yn ddigon lwcus i gyfweld a sêr eraill o’r byd ffilm ar y carped coch cyn y premiere ei hun,” medd Non Stevens.

Gall unrhyw ysgol sydd wedi’i ariannu gan y Llywodraeth ymuno a Filmclub Cymru.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.filmclub.org neu www.filmclub.org/blog/cymru ar gyfer cynnwys iaith Gymraeg yr elusen.