Ken Owens
Mae Warren Gatland wedi enwi ei dîm i herio’r Saeson ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.
Mae Owens yn cymryd lle Huw Bennett, sydd wedi’i anafu, yn y rheng flaen.
Richard Hibbard o’r Gweilch sy’n cymryd lle Owens ar y fainc fel ail ddewis yn safle’r bachwr.
Bydd Gatland yn falch o groesawu ei gapten, Sam Warburton yn ôl fel blaenasgellwr agored.
Methodd Warburton brawf ffitrwydd cyn y gêm ddiwethaf yn erbyn Yr Alban, gan olygu cap cyntaf i Aaron Shingler yn ei le. Mae Shingler yn anlwcus i golli ei le yn y 22.
Jones yn Anlwcus
Un arall anlwcus yw Ryan Jones, sydd wedi perfformio’n dda mewn dau safle gwahanol yn y ddwy gêm ddiwethaf.
Yn anffodus i Jones, mae Alun Wyn Jones wedi profi ei ffitrwydd ac yn dechrau gydag Ian Evans yn yr ail reng – mae Jones yn cadw ei le yn y 22 gan ddisodli Lou Reed ar y fainc.
Mae gweddill y tîm sy’n dechrau’n cyfateb i’r tîm ddechreuodd yn erbyn yr Albanwyr.
Mae un newid ychwanegol ar y fainc, sef bod blaenasgellwr ifanc y Gweilch, Justin Tipurick yn cymryd lle Andy Powell.
Mwy i ddilyn….
CYMRU: Leigh Halfpenny; Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North, Rhys Priestland, Mike Phillips; Gethin Jenkins, Ken Owens, Adam Jones, Alun Wyn Jones , Ian Evans, Dan Lydiate, Sam Warburton (C), Toby Faletau
EILYDDION: Richard Hibbard, Paul James, Ryan Jones, Justin Tipurick, Lloyd Williams, James Hook, Scott Williams