Simon Spender o'r Seintiau Newydd
Dyma’r enwau greodd argraff ar griw Sgorio dros y penwythnos
GOLWR
Jon Hill-Dunt (Prestatyn) – Mae Hill-Dunt wedi brwydro’n galed i adennill ei le yn nhîm Prestatyn a chafodd gêm arbennig ar Y Gnoll brynhawn Sadwrn. Yn anffodus i Hill-Dunt a Phrestatyn, llwyddodd Galacticos Castell-nedd i fachu un gôl holl bwysig.
AMDDIFFYNWYR
Kai Edwards (Castell-nedd) – Cyn chwaraewr Prestatyn, sydd bellach yn un o hoelion wyth amddiffyn Castell-nedd, rwydodd unig gôl y gêm yn erbyn ei gyn glwb a sicrhau bod yr Eryrod yn cadw’n dyn ar sodlau Bangor a’r Seintiau tua’r brig.
Jamie Brewerton (Bangor) – Mae capten Bangor yn cadw ei le yn nhîm yr wythnos wedi perfformiad arwrol arall yng nghanol amddiffyn y Dinasyddion lwyddodd i gadw Lee Hunt a Mark Jones yn dawel.
Nicky Palmer (Caerfyrddin) – Mae’r Hen Aur wedi troi’r gornel o dan reolaeth Mark Aizlewood a chyda Palmer yn arwain trwy esiampl llwyddodd Caerfyrddin i sicrhau triphwynt gwerthfawr iawn yn erbyn Aibus ddydd Sadwrn
Simon Spender (Y Seintiau) – Roedd Spender yn arian byw yn erbyn Llanelli brynhawn Sadwrn gan ymosod i lawr yr esgyll yn ogystal ag amddiffyn yn ddygn wrth i 10-dyn Y Seintiau drechu’r Cochion ar eu tomen eu hunain
CANOL CAE
Dan Macdonald (Caerfyrddin) – Un arall sydd wedi serennu i’r Hen Aur ers cael ei ddenu i Barc Waun Dew gan Mark Aizlewood. Mae’n chwaraewr hynod o weithgar wrth greu problemau lu i amddiffyn Airbus.
Leon Jeanne (Lido Afan) – Er nad oedd ei dîm wedi chwarae’n dda yn Y Drenewydd fe lwyddodd i achub pwynt â chic rhydd odidog.
Josh Macauley (Aberystwyth) – Mae Macauley wedi creu argraff ers dychwelyd i Uwch Gynghrair Cymru yn y ffenestr drosglwyddo ym mis Ionawr. Roedd cyn chwaraewr Y Bala yn llond llaw i amddiffyn Port Talbot gyda’i rediadau chwim ac efallai bod Alan Morgan wedi denu chwaraewr all sicrhau dyfodol Aber yn y gynghrair.
Ryan Fraughan (Y Seintiau) – Fraughan, sydd ar fenthyg o Stockport, oedd dewis Malcolm Allen fel Seren y Gêm brynhawn Sadwrn wrth i’r Seintiau drechu Llanelli. Roedd yng nghanol pob ymosodiad ac roedd ei bas i Greg Draper ar gyfer y gôl agoriadol yn fendigedig.
YMOSODWYR
Lee Trundle (Castell-nedd) – Efallai ei bod hi’n ddiflas gweld enw Trundle yn ymddangos yn nhîm yr wythnos eto, ond y ffaith amdani yw mai ’magic daps’ sydd yn rhedeg y sioe ar Y Gnoll ac nid yw’n gyd ddigwyddiad i rediad diweddar Yr Eryrod ddod wedi i Trundle ddychwelyd yn dilyn anaf i’w gefn.
Greg Draper (Y Seintiau Newydd) – Bachodd y gŵr o Seland Newydd y gôl agoriadol i’r Seintiau ar Barc Stebonheath gan fynd â’i gyfanswm am y tymor i 16. Ond yn ogystal â sgorio, mae Draper yn gweithio’n galed iawn dros yr achos, hefyd, a phrofodd ei werth wrth fod yn rhan o’r symudiad arweiniodd at ail gôl Y Seintiau hefyd.
Cofiwch wylio holl uchafbwyntiau’r Uwch Gynghrair ar raglen Sgorio ar S4C heno am 23:05.