Mae chwaraewr canol cae Abertawe, Joe Allen yn gobeithio bod yn holliach mewn pryd i wynebu Stoke City yn yr Uwch Gynghrair ddydd Sul.

Anafodd Allen ei linyn y gar yn fuan ar ôl i Abertawe herio West Bromwich Albion yn y gynghrair, gan olygu ei fod wedi methu a chwarae i’r Elyrch yn erbyn Norwich.

Roedd Abertawe wedi gweld colli presenoldeb bywiog Allen yn y gêm honno wrth iddyn nhw golli 3-2 – dim ond eu hail golled o’r tymor ar Stadiwm Liberty.

“Ro’n i’n siomedig iawn i fethu’r gêm Norwich” meddai Allen wrth wefan swyddogol Abertawe.

“Nes i deimlo’r anaf rai dyddiau ar ôl y gêm West Brom a doedd dim modd i mi fentro chwarae. Rwy wedi  dysgu bod modd ymdopi ag ambell anaf bach nawr ac yn y man, ond mae’n rhaid bod yn ofalus gyda llinyn y gar.”

“Gan nad oedd gêm dros y penwythnos mae hynny wedi rhoi cyfle i mi weithio’n uniongyrchol gyda’r staff meddygol ac rwy’n gobeithio gallu hyfforddi’n llawn yr wythnos yma.”

Mwy na phasio pert

Llwyddodd Abertawe i guro Stoke o 2-0 nôl ar ddechrau mis Rhagfyr, ac roedd Allen yn pwysleisio pwysigrwydd y canlyniad hwnnw.

“Roedd y gêm yna’n bwysig i ni” meddai Allen am y fuddugoliaeth yn erbyn Stoke.

“Nid yn unig o ran y pwyntiau, ond hefyd y perfformiad.”

“Fe wnaethon ni brofi pwynt i lawer o bobol oedd yn dweud mai dim ond tîm pasio pert oedden ni.”

“Mae Stoke yn gryf iawn yn yr awyr ac yn chwarae i’w cryfderau, ac mae’n anodd brwydro yn erbyn hynny. Ond ar y diwrnod roedd gennym ni gynllun ac fe weithiodd hwnnw’n union fel roedd y rheolwr am iddo wneud.”

Er hynny, mae’r chwaraewr yn ymwybodol iawn ond bod taith i gartref Stoke  yn Stadiwm Brittania yn gallu bod yn brofiad brawychus i hyd yn oed y timau mwyaf.

“Mae’r ffordd ry’n ni’n chwarae’n bert i’w wylio, ond bydd rhaid i ni ddangos eto bod modd i ni frwydro pan fo angen.”

“Fe fydd y lle’n swnllyd gan fod y cefnogwyr yn cadw llawer o sŵn, ond ein gwaith ni yw eu cadw nhw’n dawel.”