Mae’r Ceidwadwyr wedi beirniadu Llywodraeth Cymru heddiw am osgoi cymryd cyfrifoldeb dros y corff lleiafrifoedd ethnig AWEMA.

Mae arweinydd Ceidwadwyr y Cynulliad wedi beriniadu’r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, am wneud datganiad ysgrifenedig ar y datblygiadau diweddaraf yn sefyllfa AWEMA heddiw – yn hytrach na gwneud cyhoeddiad yn y Senedd gyda chyfle i aelodau’r siambr ei chroesholi.

Mewn datganiad heddiw, dywedodd Jane Hutt fod gan y Llywodraeth ddau brif amcan ar gyfer AWEMA nawr, sef ceisio “diogelu cymaint o’r gyllideb cyhoeddus sydd ar ôl yng nghyfrifon AWEMA,” a cheisio “gofalu am bobol sydd yn cymryd rhan ym mhrosiectau AWEMA.”

‘Siomedig’

Dywedodd Andrew RT Davies heddiw ei fod yn croesawu “camau i ddiogelu’r cyllideb cyhoeddus sy’n weddill o gyllideb AWEMA, wrth gwrs,” ond ei fod yn siomedig na roddwyd cyfle i Aelodau Cynulliad ymateb i’r cyhoeddiad yn y siambr.

“Datganiad arall, enghraifft arall o gyfrifoldebau’n cael eu hesgeuluso gan Lywodraeth Lafur,” meddai Andrew RT Davies.

“Dylai’r datganiad yma fod wedi cael ei wneud yn y siambr, gyda chwestiynau’n dilyn o bob plaid.”

Ymchwilio’n parhau

Yn eu datganiad heddiw, dywedodd y Llwyodraeth eu bod yn dal i gydweithio’n agos gyda’r Comisiwn Elusennau sy’n cynnal yr Ymchwiliad Statudol i ddod ag AWEMA i ben.

Cadarnhaodd y Llywodraeth eu bod hefyd yn “parhau â’n trafodaeth agos gyda Heddlu Dyfed Powys, ac yn darparu gwybodaeth iddyn nhw i’w helpu gyda’u hymchwiliad.”

Dywedodd Jane Hutt heddiw fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi dechrau cynnal arolwg hefyd.

“Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi datgan y bydd eu hadolygiad yn ystyried a yw Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Swyddfa Cyllido Ewropeaidd Cymru, wedi rheoli eu perthynas ag AWEMA yn briodol er mwyn diogelu a gwneud defnydd da o gyllideb cyhoeddus.”

Ond mae’r Ceidadwyr yn rhybuddio fod cwestiynau mawr yn dal heb eu hateb ynglyn â’r berthynas rhwng y Blaid Lafur ag AWEMA.

Dywedodd Andrew RT Davies heddiw ei fod wedi anfon “dau lythyr at y Prif Weinidog [Carwyn Jones] yn ymwneud â’r cysylltiadau agos rhwng y Blaid Lafur a hierarchiaeth AWEMA. Hyd yn hyn, dyw fy ngalwadau am sicrwydd o ddiwydrwydd priodol wrth wneud penderfyniadau heb gael eu hateb.”

Mae cwestiynau mawr wedi codi ynglyn â pherthynas y Blaid Lafur ag Elusen Lleifarifoedd Ethnig Cymru, AWEMA, yn ddiweddar – wedi iddi ddod i’r amlwg fod pryderon ynglyn â systemau gwariant yr elusen wedi cael eu codi mewn adroddiad yn ôl yn 2004.

“Mae’n drueni eu bod nhw [Llywodraeth Cymru] wyth mlynedd, ac wyth miliwn o bunnoedd yn rhy hwyr yn gweithredu,” meddai Andrew RT Davies heddiw.