David Cameron
Mae rhai o’r cyrff proffesiynol mwyaf wedi cadarnhau nad ydyn nhw wedi cael gwahoddiad i gynnal trafodaethau gyda’r Prif Weinidog ynglŷn â chynlluniau dadleuol y Llywodraeth i ddiwygio’r Gwasanaeth Iechyd (GIG).
Dywed wyth o golegau brenhinol nad ydyn nhw wedi cael gwahoddiad i’r cyfarfod – y bwriad yw ceisio ennill cefnogaeth i’r mesur dadleuol.
Mae Rhif 10 wedi gwrthod rhyddhau rhestr o’r rhai fydd yn mynychu’r uwchgynhadledd iechyd i drafod y mesur sy’n wynebu gwrthwynebiad llym gan gyrff proffesiynol, grwpiau sy’n cynrychioli cleifion, y Blaid Lafur a rhai aelodau o Gabinet y Ceidwadwyr.
Ond mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a Choleg Brenhinol y Radiolegwyr, sydd wedi galw am sgrapio’r mesur, ymhlith y rhai sydd wedi cadarnhau nad ydyn nhw wedi cael gwahoddiad.
Mae Coleg Brenhinol y Seiciatryddion hefyd ymhlith y rhai sydd heb gael gwahoddiad – mae’r coleg eisoes wedi dweud na all gefnogi’r mesur yn ei ffurf presennol ac mae nhw wedi dweud bod y diwygiadau yn “ddiffygiol”.
Dywed undebau iechyd eu bod nhw hefyd wedi cael eu gadael allan o’r cyfarfod, gan gynnwys Coleg Brenhinol y Bydwragedd (RCM), Y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN), Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA), Unite a Unison – mae nhw i gyd wedi galw ar y Llywodraeth i ddiddymu’r mesur.
‘Osgoi’r beirniaid’
Mae llefarydd y Prif Weinidog wedi gwadu bod David Cameron yn ceisio osgoi y rhai sy’n feirniadol o’i gynlluniau.
“Pwrpas y cyfarfod heddiw yw clywed gan bobl sy’n gweithredu’r diwygiadau a sut mae’r broses yn mynd,” meddai’r llefarydd.
Ond mae prif weithredwr y RCN, Peter Carter wedi dweud ei bod yn “anhygoel” nad ydyn nhw wedi cael gwahoddiad i’r cyfarfod gan ychwanegu: “Mae’n ymddangos bod unrhyw un sydd wedi gwrthwynebu’r mesur wedi cael eu gadael allan ac fe fyswn ni yn dweud nad ydy hynny’n ffordd call i symud ymlaen.”
Bwriad y mesur yw rhoi rôl mwy canolog i feddygon teulu wrth ffurfio gofal i gleifion.
Mae mwy na 147,000 wedi arwyddo e-ddeiseb yn galw am ddiddymu’r mesur.