Peter Hain AS
Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Ysgrifennydd Cymru’r Wrthblaid, Peter Hain, o ragrith ar ôl iddo honni bod llawer o gynghorwyr annibynnol yn ‘Dorïaid cudd’.
Roedd AS Castell Nedd wedi gwneud ei honiad mewn araith yng nghynhadledd Llafur Cymru yng Nghaerdydd, wrth rybuddio yn erbyn pleidleisio dros ymgeiswyr annibynnol yn yr etholiadau ym mis Mai.
Ond dywed yr AC Plaid Cymru, Simon Thomas, fod y Blaid Lafur mewn clymblaid gyda llawer o’r cynghorwyr hyn y mae Peter Hain yn eu beirniadu.
“Yr hyn y mae Peter Hain heb ddweud wrth bobl yn ei araith negyddol yw fod ei blaid ei hun mewn clymblaid â llawer o gynghorwyr annibynnol, neu ‘Dorïaid Cudd’ fel mae’n eu disgrifio, yn Sir Gaerfyrddin,” meddai.
‘Negyddiaeth’
“Negyddiaeth ac ymosod ar eraill yw’r hyn sy’n tra-arglwyddiaethu yng nghynhadledd Llafur,” meddai Simon Thomas.
“Fe wnaeth Carwyn Jones dreulio rhan helaeth o’i araith yn ymosod ar Blaid Cymru a phleidiau eraill, fe wnaeth Douglas Alexander ddefnyddio’i araith i ymosod ar yr SNP, a nawr mae Peter Hain yn ymosod ar aelodau annibynnol ac unrhyw un arall nad yw’n digwydd bod yn Llafur.
“Mae Cymru’n wynebu heriau mawr o safbwynt yr economi, iechyd ac addysg.
“Ond yn lle amlinellu’r hyn y bydd Llywodraeth Cymru’n ei wneud i oresgyn yr heriau yma, mae ymdrechion gwleidyddion Llafur yn mynd ar ymosod ar eraill.”