Y Prif Weinidog Carwyn Jones
Mae’r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi galw ar David Cameron i gael y gwyleidd-dra i gydnabod fod cynlluniau ei blaid i ddiwygio’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr yn anghywir.

Yn ei araith yng nghynhadledd Llafur Cymru yn stadiwm Swalec yng Nghaerdydd, addawodd y byddai Llywodraeth Cymru’n gwarchod y Gwasanaeth Iechyd rhag cael ei breifateiddio.

“Dw i’n credu mewn gwasanaethau o safon uchel sydd ar gael i bawb – nid yn ddewis i’r ychydig,” meddai.

“Yn wahanol i’r Torïaid, fyddwn ni ddim yn dadfeilio’r Gwasanaeth Iechyd.”

Gan gyfeirio at feirniadaeth David Cameron o Wasanaeth Iechyd Cymru yn Nhŷ’r Cyffredin yn ddiweddar, tynnodd Carwyn Jones sylw at y trafferthion y mae Llywodraeth Prydain yn eu cael wrth geisio cyflwyno’r Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

“Pe bai angen unrhyw brawf ein bod ni’n symud y Gwasanaeth Iechyd i’r cyfeiriad iawn yma yng Nghymru, does ond angen edrych ar yr hyn sy’n digwydd yn Lloegr ar hyn o bryd,” meddai.

“Rhesymau ideolegol sydd y tu ôl i’r hyn y mae’r Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei wneud i’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr.

“Pam na chân nhw hyd i’r gwyleidd-dra i ddweud ‘roedden ni’n anghywir’?”