Map yn dangos lleoliad Lavia ym Môr y Baltig (o wefan Wikipedia)
Mewn refferendwm yn Latvia heddiw, mae disgwyl i drigolion y wlad wrthod cynnig i gydnabod y Rwseg fel ail iaith genedlaethol.

Gyda thraean o 2.1 miliwn o drigolion y wlad fach yn y Baltig yn ystyried y Rwseg fel eu mamiaith, mae llywodraeth Latvia’n cael eu cyhuddo o amddifadu siaradwyr Rwseg o’u hawliau.

Mae’r Latviaid cynhenid, fodd bynnag, yn gweld y refferendwm fel ymgais i sathru ar annibyniaeth y wlad.

Mae’r Rwsiaid a’r lleiafrifoedd eraill sydd wedi trefnu’r refferendwm yn cydnabod nad oes ganddyn nhw fawr ddim gobaith o ennill, gan y byddai angen i hanner yr holl etholwyr bleidleisio o blaid. Eu gobaith yn hytrach yw y byddai pleidlais gref o blaid yn gorfodi’r llywodraeth i drafod mwy gyda lleiafrifoedd ethnig.

Ugain mlynedd ar ôl torri’n rhydd o’r hen Undeb Sofietaidd, mae amheuaeth gref tuag at iaith cyn-goncwerwyr y wlad.

Ofn y Latviaid yw fod Rwsia’n ceisio cynyddu ei dylanwad yn y wlad trwy gyfrwng y lleiafrif o siaradwyr Rwseg yno.

“Latvia yw’r unig le yn y byd lle mae’r Latvieg yn cael ei siarad, felly rhaid inni ei hamddiffyn hi,” meddai Martins Dzerve, 37. “Ond mae’r Rwseg ym mhobman.”