Leanne Wood
Mae’r delynores adnabyddus Elinor Bennett Wigley wedi datgan ei chefnogaeth i Leanne Wood yn y ras ar gyfer arweinyddiaeth Plaid Cymru.

Er bod ei gŵr, Dafydd Wigley, wedi gwrthod dweud pwy y bydd yn ei gefnogi gan y byddai’n “amhriodol i mi wneud, fel Llywydd Anrhydeddus y blaid,” mae ei wraig wedi datgan ei chefnogaeth ddi-flewyn-ar-dafod i’r ymgeisydd o’r Cymoedd.

“Mae’n bleser gen i ddatgan fy nghefnogaeth i Leanne Wood fel arweinydd nesaf Plaid Cymru,” meddai heddiw.

“Credaf ei bod yn bwysig iawn fod person ifanc yn cymryd yr awenau er mwyn sicrhau ymlyniad y to ifanc i Blaid Cymru.”

Wrth gyhoeddi ei chefnogaeth i’r Aelod Cynulliad dros Ganol De Cymru, dywedodd Elinor Bennett fod Leanne Wood yn “arweinydd naturiol a chanddi’r gallu i ysbrydoli eraill”.

“Mae hi ar dân dros y materion hynny a ystyriaf yn bwysig – cyfiawnder cymdeithasol, iawnderau dynol, hawliau merched, dyfodol yr iaith a’n diwylliant, a ffyniant economaidd ein gwlad,” meddai.

“Mae Cymru angen llais newydd i symud ymlaen i gyfnod cyffrous yn ein hanes ac mae’n rhaid i Blaid Cymru ennill pleidleisiau yng Nghymoedd y De i fod yn gredadwy fel plaid lywodraethol. Dangosodd Leanne yn barod ei bod yn wleidydd effeithiol iawn yn ei chymuned yn y Rhondda ac yn genedlaethol. Gobeithiaf y caiff gyfle i barhau ac ehangu ei gwaith dros Gymru gyfan.

Elinor Bennett yw’r enw diweddaraf o rengoedd Plaid Cymru i ddatgelu pwy fydd yn cael eu pleidlais pan ddaw hi’n bryd ethol arweinydd newydd i’r Blaid ddechrau mis Mawrth.

Yr wythnos diwethaf fe gyhoeddodd Alun Ffred Jones ei gefnogaeth i Elin Jones yn y ras arweinyddol.

Ond gyda Leanne Wood mae’r rhestr hiraf o gefnogwyr blaenllaw hyd yn hyn, gyda chyn-lywydd Plaid Cymru Dafydd Iwan, Jonathan Edwards AS, y cyn-AS Adam Price, yr Aelodau Cynulliad Bethan Jenkins a Lindsey Whittle, a chyn-brif-weithredwr y Blaid Gwenllian Lansdown Davies, i gyd y tu ôl iddi.

Dywedodd Leanne Wood ei bod yn “hapus iawn i gael cefnogaeth Elinor Bennett, llysgenhades dros ddiwylliant Cymru.”

Mae’r blaid ar ganol tair wythnos o hystings cyhoeddus ar hyn o bryd, gyda’r diweddaraf neithiwr yn Aberystwyth.

Fe fydd rhain yn para nes 26 Chwefror, pan fydd pleidleisiau post aelodau Plaid Cymru yn cael eu gyrru allan, er mwyn eu dychwelyd ar gyfer y cyfri, a’r canlyniad, ar 16 Mawrth.