Mae Cymru’n colli 3,000 o siaradwyr Cymraeg rhugl bob blwyddyn, yn ôl adroddiad newydd gan Fwrdd yr Iaith.
Yn ôl yr adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw, mae nifer y bobol rhugl eu Cymraeg sy’n marw bob blwyddyn a nifer y mewnfudwyr di-Gymraeg i Gymru yn cyfrannu’n fawr at ostwng nifer siaradwyr Cymraeg Cymru – er bod poblogaeth Cymru yn cynyddu o hyd.
Mae’r adroddiad yn nodi bod 6,500 o siaradwyr Cymraeg yn marw’n flynyddol, tra bod 5,200 yn symud i ffwrdd.
Mae’r gostyngiad hwn, medd yr adroddiad, yn gwneud tolc mwy yn nifer y siaradwyr Cymraeg sydd ar ôl yng Nghymru nag y gall nifer y plant ac oedolion sy’n dysgu’r iaith ei lenwi.
Newidiadau demograffig
Mae’r Bwrdd yn amcangyfrif bod y nifer o bobol sydd bellach yn siarad Cymraeg yn rhugl wedi gostwng i 300,000 erbyn hyn. Mae hyn o’i gymharu â 457,000 o bobol oedd yn dweud eu bod yn gallu darllen, ysgrifennu a siarad Cymraeg yn ôl yng Nghyfrifiad 2001.
Mae Hywel Jones yn dweud fod newidiadau demograffig yn chwarae rhan fawr yn nifer y boblogaeth sydd bellach yn gallu siarad Cymraeg, gan gynnwys nifer y genedigaethau a’r marwolaethau, yr ymfudo a’r mewnfudo, yn ogystal â thebygolrwydd siaradwyr Cymraeg i gwrdd a chymar Cymraeg – er mwyn magu cenhedlaeth newydd o Gymry Cymraeg.
Roedd Cyfrifiad 2001 yn dangos bod 20% o boblogaeth Cymru wedi eu geni yn Lloegr. Mae’r adroddiad heddiw yn rhagweld bod y ffigwr bellach ar gynnydd.
Mae’r adroddiad hefyd yn datgelu bod Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gâr yn parhau’n ganolog i gynnal y Gymraeg, gyda siaradwyr y bedair sir yn unig yn cyfrannu tuag at 56% o holl siaradwyr Cymraeg Cymru.
Disgwyl y cyfrifiad
Daw’r arolwg fisoedd yn unig cyn cyhoeddi’r Cyfrifiad diweddaraf ar gyfer 2011. Ond mae awdur adroddiad Bwrdd yr Iaith, Hywel Jones, yn dweud y bydd eu hadroddiad yn gefndir defnyddiol i ganlyniadau’r Cyfrifiad hwnnw.
“Bydd Cyfrifiad 2011 yn rhoi darlun manylach, yn enwedig o ran daearyddiaeth y sefyllfa, ond ni ddylai ei ganlyniadau ddod fel syndod,” meddai Hywel Jones.
“Nid yw canlyniadau arolygon diweddar, na’r amcanestyniadau a gyfrifwyd, yn awgrymu y gwelir cynnydd sylweddol yn y ganran sy’n gallu siarad Cymraeg yn y dyfodol agos.”