Mae na ragor o ansicrwydd heddiw am ddyfodol Peacocks, sydd a’i bencadlys yng Nghaerdydd, yn dilyn adroddiadau mai dim ond un cwmni sydd ar ôl yn y ras i geisio achub y busnes.
Roedd Peacocks, sydd â 563 o siopau a 48 o gonsesiynau, a’r Peacock Group wedi mynd i drafferthion fis diwethaf ar ôl iddyn nhw fethu â dod i gytundeb gyda’u benthycwyr ynglŷn a’u dyledion enfawr.
Mae’n golygu bod 7,500 o swyddi yn y fantol.
Yn ôl adroddiadau, cwmni o India, S Kumars Nationwide (SKNL) yw’r unig un ar ôl sydd wedi dangos diddordeb mewn achub y busnes, ar ôl i Edinburgh Woollen Mill a chwmni dillad Alshair Fiyaz dynnu nôl.
Cafodd siopau Bonmarche, rhan o Grŵp Peacocks, eu gwerthu fis diwethaf i gwmni Sun European Partners, gan arwain at 1,400 o ddiswyddiadau a chau 160 o siopau. Roedden nhw wedi prynu 230 o siopau ac yn parhau i gyflogi 2,400.
Roedd llefarydd ar ran y gweinyddwyr KPMG wedi gwrthod gwneud sylw.