Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Meirion Prys Jones
Mae Llywodraeth Cymru wedi wfftio honiadau fod Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi cael eu gwthio i’r ymylon wrth lunio Strategaeth Iaith newydd y Llywodraeth heddiw.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae honiad Prif Weithredwr y Bwrdd, Meirion Prys Jones, nad yw’r Llywodraeth wedi trafod y Strategaeth Iaith newydd gyda nhw o gwbwl, yn gamargraff mawr.
“Mae dweud nad oedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn rhan o unrhyw drafodaeth wrth roi’r Strategaeth Iaith Gymraeg at ei gilydd ddim yn wir,” meddai’r Llywodraeth.
“Roedden nhw’n rhan o grŵp ymgynghori’r Gweinidog oedd yn ymgynghori ar gynnwys y ddogfen.”
Ond mae Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith, Meirion Prys Jones, yn sefyll wrth ei sylwadau heddiw.
‘Dim dialog uniongyrchol’
Wrth siarad â Golwg 360 y bore ’ma, dywedodd nad oedd “unrhyw ddialog uniongyrchol” wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru ag unrhyw aelod o staff Bwrdd yr Iaith ar y mater.
“Doedd dim partneriaeth sylweddol rhyngom ni â’r Llywodraeth ar y mater,” meddai.
“Mwy nag eistedd mewn ystafell gyda 40 o gyrff eraill fel Cymdeithas yr Iaith a Merched y Wawr, fuodd dim dialog uniongyrchol rhyngom ni â nhw,” meddai Meirion Prys Jones.
“Dydi hynny ddim cweit yr un peth ag ymgynghori â’r prif gorff statudol ar gynllunio iaith yng Nghymru.”
Yn ôl Meirion Prys Jones, mae’r modd yr aethpwyd ati gan y Llywodraeth bresennol i lunio’r Strategaeth Iaith yn wahanol iawn i’r ffordd yr aeth y Llywodraeth flaenorol ati.
Dan Lywodraeth Glymblaid Cymru’n Un, meddai, fe fu’r Bwrdd yn cydweithio’n agos gyda’r Llywodraeth wrth lunio’r Strategaeth Iaith, gan ysgrifennu darnau helaeth ohono.
‘Gwrthod dangos copi’
Ond mae’n dweud mai’r Llywodraeth yn unig sydd wedi ysgrifennu’r Strategaeth Iaith ddiweddaraf, ac nad yw’r Bwrdd wedi cael eu gwahodd i unrhyw gyfarfod i drafod y ddogfen ers bron i chwe mis.
“Byddech chi’n disgwyl, os mai ni yw prif gorff statudol Cymru ar gynllunio iaith Gymraeg, y bydden nhw wedi ymgynghori â ni.
“Ond maen nhw wedi hyd yn oed gwrthod dangos copi i ni,” meddai Meirion Prys Jones, wrth drafod y Strategaeth Iaith newydd sydd i gael ei chyhoeddi ar 1 Mawrth eleni.
“Dwi ddim yn ystyried hynny yn ‘ymgynghori’ â ni,” meddai.
Dod i ben
Bydd cyhoeddi’r Strategaeth Iaith newydd yn cyd-daro â diweddglo Bwrdd yr Iaith, sy’n dod i ben yn swyddogol fis Mawrth.
O hynny ymlaen, bydd gwaith y Bwrdd yn cael ei rannu rhwng y Comisiynydd Iaith newydd ac adran o fewn y Llywodraeth.
Mae Meirion Prys Jones eisoes wedi codi amheuon am allu’r Llywodraeth i gynnig syniadau creadigol a digon o hyblygrwydd i hyrwyddo’r iaith yn effeithiol.
Mae rhywfaint o anghytuno wedi bod rhwng y Bwrdd a’r gwasanaeth sifil yn y gorffennol hefyd, a hynny’n ymwneud â chynnwys y Ddeddf Iaith a gafodd ei phasio y llynedd.
Fe fydd Strategaeth newydd y Llywodraeth yn cael ei chyhoeddi Ddydd Gŵyl Dewi eleni.