Mae Warren Gatland wedi dweud ei bod hi’n debygol mai Leigh Halfpenny fydd y prif giciwr yn y gêm Chwe Gwlad yn erbyn yr Alban prynhawn fory.
Mi wnaeth Halfpenny gymryd y cyfrifoldeb am y cicio yn ail hanner y gêm gyffrous yn erbyn yr Iwerddon yn Nulyn dydd Sul diwethaf gan lwyddo gyda chic gosb munud olaf i sicrhau buddugoliaeth i’r Cymry.
“Mi wnaeth Leigh yn dda pan gafodd ei roi o dan bwysau,” meddai Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland.
“Rydym yn gwybod ei fod wedi bod yn cicio’n dda ar gyfer y Gleision felly mae posibilrwydd cryf y bydd yn dechrau yn y rôl honno.”
Mae Halfpenny a Rhys Priestland ill dau wedi bod yn gweithio gyda hyfforddwr cicio Cymru, Neil Jenkins, yn ystod y paratoadau ar gyfer y gêm.
Ar gais yr Alban, bydd to Stadiwm y Mileniwm ar gau yn ystod y gêm. Mae’n argoeli felly i fod yn ornest gyffrous arall gyda’r ddau dîm yn rhedeg gyda’r bêl.