Caeredin 14–15 Gweilch

Bydd y Gweilch yn hedeg yn ôl i Gymru yn hapus eu byd yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Caeredin ym Murrayfield nos Wener. Roedd cais gwych yr asgellwr ifanc, Eli Walker, hanner ffordd trwy’r ail hanner yn ddigon i gipio’r fuddugoliaeth i’r rhanbarth o Gymru.

Yr Albanwyr a ddechreuodd orau ac roeddynt ar y blaen o wyth pwynt wedi’r chwarter cyntaf diolch i gic gosb Phil Godman a chais Dougie Fife. Trosodd Godman y tri phwynt wedi chwarter awr cyn i Fife dirio bedwar munud yn ddiweddarach.

Caeodd Dan Biggar y bwlch i bum pwynt gyda chic gosb wedi 22 munud cyn i Richard Hibbard unioni’r sgôr gyda chais cyntaf y Cymry wedi ychydig llai na hanner awr o chwarae. Sefydlodd y Gweilch sgarmes rydd ar ôl ennill llinell yn ddwfn yn hanner Caeredin gan wthio’r Albanwyr yn ôl a galluogi’r bachwr i dirio.

Cyfartal felly wrth i’r egwyl agosáu ond Caeredin a gafodd y gair olaf gyda chic gosb arall o droed Godman yn yr eiliadau olaf, 11-8 ar hanner amser.

Ac ymestynnodd Godman y fantais i chwe phwynt gyda chic gosb lwyddiannus arall  ar ôl 54 munud cyn i Walker ennill y gêm i’r Gweilch gydag ymdrech unigol wirioneddol wych.

Derbyniodd yr asgellwr y bêl yn ei hanner ei hun cyn curo llu o amddiffynnwyr ar ei ffordd at linell gais Caeredin. Plymiodd o dan y pyst gan wneud tasg Biggar o drosi’r cais a rhoi’r Gweilch ar y blaen yn un hawdd.

15-14 y sgôr gyda dros chwarter y gêm yn weddill ond felly yr arhosodd hi er i Godman gael cyfle da i adfer mantais ei dîm gyda chynnig at y pyst.

Canlyniad da i’r Gweilch oddi cartref felly a chanlyniad sydd yn eu cadw yn yr ail safle yn nhabl y RaboDirect Pro12.