Ben Blair - 17 pwynt i'r ciciwr
Gleision 22–15 Connacht
Dychwelodd y Gleision i’w cyn gartref ym Mharc yr Arfau nos Wener i herio Connacht yn y RaboDirect Pro12 gan guro’r Gwyddelod mewn gêm agos. Er mai dim ond un cais a sgoriodd y tîm cartref yn erbyn dau’r ymwelwyr roedd cicio cywir Ben Blair yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth i’r Cymry.
Rhoddodd cic gosb Naill O’Connor fantais gynnar i’r Gwyddelod wedi dim ond dau funud ond roedd y Gleision ar y blaen o fewn dim diolch i ddwy gic gosb o droed Blair. Llwyddodd y cefnwr ar ôl pedwar munud ac yna wedi wyth munud gan roi ei dîm ar y blaen o 6-3.
Tarodd Connacht yn ôl gyda chais cyntaf y gêm wedi chwarter awr o chwarae. Croesodd yr asgellwr, Tiernan O’Halloran, yn y gornel chwith cyn i O’Connor lwyddo gyda’r trosiad, 10-6 o blaid y Gwyddelod hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf.
Ond y Gleision a oedd ar y blaen ar yr egwyl diolch i ddwy gic gosb arall gan Blair, y naill wedi hanner awr a’r llall bedwar munud cyn hanner amser.
Ymestynnodd Blair y fantais wedi chwarter awr o’r ail hanner gyda chic gosb arall cyn i Sam Hobbs dirio unig gais y tîm cartref toc wedi’r awr.
Roedd mantais y Gleision yn 12 pwynt wedi i Blair drosi’r cais hwnnw a rhy ychydig rhyw hwyr oedd cais eilydd Connacht, Dave Moore, yn y munud olaf. Buddugoliaeth i’r Gleision felly a phwynt bonws i’r Gwyddelod, 22-15 y sgôr terfynol.
Mae llawer o gefnogwyr y Gleision yn awyddus i’w tîm ddychwelyd i Barc yr Arfau yn barhaol a does dim dwywaith y bydd y canlyniad hwn, os nad y perfformiad, yn cael ei ddefnyddio fel dadl o blaid hynny yn y dyfodol.
Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Gleision dros y Scarlets i’r chweched safle yn y RaboDirect Pro12.