Tovey - Sgoriwr unig bwyntiau'r Dreigiau
Ulster 23–12 Dreigiau
Taith ddiffrwyth a gafodd y Dreigiau i Ravenhill nos Wener wrth iddynt golli yn erbyn Ulster yn y RaboDirect Pro12. Roedd y Cymry yn wynebu talcen caled wedi dim ond chwarter awr o chwarae wedi i fewnwr y tîm cartref, Ruan Pienaar, sgorio dau gais mewn dau funud.
Y Dreigiau a sgoriodd bwyntiau cyntaf y gêm serch hynny diolch i gic gosb Jason Tovey wedi saith munud.
Ond buan iawn y dechreuodd pethau droi o blaid y Gwyddelod ac roedd Pienaar yng nghanol popeth. Methodd un cyfle i daro’n ôl trwy fethu cic gosb cyn sgorio cais cyntaf y gêm wedi 13 munud. Trosodd hwnnw gan roi ei dîm ar y blaen o bedwar pwynt.
Ac roedd y fantais honno’n naw pwynt ddau funud yn ddiweddarach diolch i ail gais y mewnwr, 12-3 wedi chwarter awr.
Yn ôl y daeth y Dreigiau a dim ond tri phwynt oedd ynddi wedi hanner awr o chwarae diolch i ddwy gic gosb arall o droed Jason Tovey. Ond Ulster a gafodd y gair olaf yn yr hanner cyntaf wrth i Pienaar drosi cic cosb i roi mantais o 15-9 i’w dîm ar yr egwyl.
Caeodd cic arall gan Tovey y bwlch i dri eto yn gynnar yn yr ail hanner cyn i asgellwr y tîm cartref, Craig Gilroy, sicrhau’r fuddugoliaeth i’r Gwyddelod gyda thrydydd cais y gêm. Methodd Pienaar y trosiad eto ond roedd Ulster ar y blaen o 20-12 gyda llai na hanner awr ar ôl.
Rhoddwyd llygedyn o obaith i’r Dreigiau daro’n ôl gan i ddau o chwaraewyr y tîm cartref gael eu hanfon i’r gell gosb. Derbyniodd y blaenasgellwr, Willie Faloon, a’r canolwr, Ian Whitten gardiau melyn yn yr ail hanner ond methu a manteisio a wnaeth y rhanbarth o Gymru.
Yn wir, Ulster a sgoriodd yr unig bwyntiau yn chwarter olaf y gêm sef cic gosb a throsiad gan Pienaar o bobty i gais gan Stefan Terblanche yn y munudau olaf. 30-12 y sgôr terfynol.
Mae’r canlyniad hwn yn cadw’r Dreigiau tua gwaelodion y Pro12. Maent yn yr unfed safle ar ddeg dri phwynt yn unig uwch ben Aironi ar y gwaelod.