Cymru dan ugain 28–12 Yr Alban dan ugain

Daeth torf dda iawn i Barc Eirias, Bae Colwyn i weld tîm dan ugain Cymru yn curo’r Alban nos Wener. Cymru oedd y tîm gorau o dipyn ac oni bai am ddau gais cysur hwyr i’r Albanwyr byddai’r bwlch wedi bod yn un llawer mwy cyfforddus.

Trosodd Sam Davies gic gosb gynnar i Gymru cyn i’r cefnwr, Ross Jones, sgorio’r cais agoriadol wedi 13 munud. Enillodd Cymru’r bêl yn ardal y dacl bum medr o linell gais yr Albanwyr cyn ei lledu’n gyflym o’r dde i’r chwith a thasg hawdd oedd croesi’r llinell i Jones. Methodd Davies y trosiad ond caiff faddeuant gan mai ei gic dda ef a oedd yn gyfrifol am ennill y tir i greu’r cais yn y lle cyntaf.

Cyfnewidiodd y ddau dîm gic gosb yr un wedi hynny cyn i’r asgellwr, Luke Morgan, sgorio ail gais Cymru wedi hanner awr o chwarae. Enillwyd pêl lân o’r lein a bylchodd Corry Allen yn gryf trwy’r canol cyn pasio i Morgan ar y chwith a chroesodd yntau. Llwyddodd Davies gyda’r trosiad y tro hwn, 18-3 i Gymru ar yr egwyl.

Davies a sgoriodd bwyntiau cyntaf yr ail hanner hefyd wrth i’w gic gosb wedi 47 munud ychwanegu tri phwynt arall at fantais Cymru. Ac roedd y maswr yn ei chanol hi eto toc wedi’r awr pan sgoriodd y tîm cartref eu trydydd cais. Bylchodd Davies yn dda cyn dadlwytho i Morgan ac roedd yntau yn gryfach na dau o amddiffynnwyr yr Alban a thiriodd o dan y pyst. 28-3 y sgôr yn dilyn trosiad Davies.

Tynnwyd ychydig o sglein oddi ar y fuddugoliaeth pan sgoriodd Jamie Farndale ddau gais hwyr i’r Albanwyr ond doedd dim dwywaith bod Cymru yn llawn haeddu’r sgôr terfynol, 28-15.

Mae’r fuddugoliaeth honno yn codi Cymru i’r ail safle yn nhabl y Chwe Gwlad dan ugain gyda thair gêm ar ôl.