Bradley Davies
Er mwyn ceisio cael ei chwaraewyr i fyhafio ar y cae, mi wnaeth Warren Gatland gynnig bod unrhyw un oedd yn cael ei gosbi’n ddiangen gyda cherdyn melyn yn gorfod talu dirwy o £30,000.
Ond doedd chwaraewyr Cymru ddim yn hoffi’r syniad, ac nawr mae’r hyfforddwr wedi gofyn iddyn nhw feddwl am ffordd arall o atal y cardiau melyn gwirion.
Daw sylwadau Gatland wedi i’r clo Bradley Davies gael ei gondemnio’n hael a’i wahardd am saith wythnos ar ôl iddo dderbyn cerdyn felen yn y gêm yn erbyn Iwerddon, ar ôl cyflawni tip tackle anghyfreithlon.