Mae chwaraewr canol cae Abertawe Leon Britton wedi talu teyrnged i’w reolwr a’r dyn sy’n ben ar Norwich am lwyddiant y ddau dîm yn Uwch Gynghrair Lloegr yn ystod y tymor presennol.

Yfory yn Stadiwm y Liberty bydd y ddau dîm yn cwrdd, ill dau yn eistedd yn gyfforddus yn hanner uchaf y tabl yn dilyn dyrchafiad y llynedd.

Gydag Abertawe yn y degfed safle a Norwich gyda dau bwynt yn fwy ac yn y nawfed safle, mae’r ddau dîm yn gwneud yn wych yn yr Uwch Gynghrair.

 ‘‘Hyd yn hyn, mae’r ddau glwb wedi gwneud yn wych,” meddai Leon Britton.

“ Ar ddechrau’r tymor, ni (Abertawe) a Norwich oedd y ffefrynnau i fynd lawr.

‘‘Mae’r ddau glwb wedi profi llawer yn anghywir hyd yn hyn, er nad ydyn nhw yn ddiogel eto.”

Y gyfrinach yw’r rheolwr dawnus, meddai, yn cyfeirio at Brendan Rodgers a Paul Lambert yn Norwich.

 ‘‘Nid oes llawer o newidiadau eu gwneud i’r un o’r ddau dîm, gan fod y rheolwyr wedi cadw ffydd yn y rhan fwyaf o’r chwaraewyr sydd wedi eu cael i’r Uwch Gynghrair,’’ meddai Britton.

‘‘Mae’n rhoi ffydd a rhyw fath o grêd i chwaraewyr a chefnogwyr yn yr adrannau llai, pan fyddwch yn gweld tîm sydd wedi aros gyda’i gilydd ac yn dal eu tir yn yr Uwch Gynghrair.”