Mae chwaraewr canol cae Newcastle United Haris Vuckic wedi ymuno gyda’r Adar Gleision ar fenthyg am fis.

Mae’r chwaraewr 19 oed yn gobeithio cwblhau’r ddêl mewn da bryd ar gyfer y gêm erbyn Caerlŷr yfory.

Ymunodd y chwaraewr o Slofenia â Newcastle o’r clwb NK Domzale ym mis Ionawr 2009.

Mae Vuckic wedi chwarae pumo o weithiau i dîm Alan Pardew y tymor yma.

Bydd y chwaraewr canol cae ar gael ar gyfer pob un o’r gemau hyd at y daith i Fryste ar y 10fed o Fawrth.

Fodd bynnag, nid fydd Vuckic ar gael ar gyfer y rownd derfynol yng nghystadleuaeth Cwpan Carling pan fydd Caerdydd yn herio Lerpwl yn Wembley ar y 25ain o Chwefror.