Keith Davies
 Mae Aelod Cynulliad Llanelli wedi galw am symud S4C i’r broydd Cymraeg heddiw, a dilyn esiampl teledu Gaeleg Iwerddon.

 Yn Iwerddon, meddai Keith Davies AC, mae swyddfeydd teledu Gaeleg Iwerddon wedi eu lleoli yn y gymuned – ac mae’n dweud mai dyna sydd ei angen ar S4C.

Daw ei sylwadau yn sgîl y newyddion fod cwmni teledu Tinopolis yn cael gwared ar 30 o weithwyr yn eu prif swyddfa yn Llanelli, ac wyth arall wrth iddyn nhw gau eu swyddfa yng Nghaernarfon.

Mae’r cyn-Weinidog Diwylliant Alun Ffred Jones eisoes wedi dweud mai symud swyddi teledu o Gaerdydd i’r Gorllewin sydd angen, ac mae Aelod Cynulliad Llanelli yn cytuno.

 “Mae angen i ni edrych ar model Iwerddon,” meddai Keith Davies.

 “Mae pencadlys y teledu Gaeleg mas mewn pentre’ yn y gorllewin lle mae’r mwyafrif yn siarad yr iaith… mewn pentre’ cofiwch.” 

Trwy symud S4C i’r fro Gymraeg fe fyddai swyddi’n cael eu creu ar gyfer y Cymry yn eu cymunedau eu hunain, yn ôl Keith Davies.

“Mae’r Cynulliad wedi gwneud hynny’n barod,” meddai, “Mae ganddon ni swyddfeydd yn Aberyswyth, Llandudno a Merthyr… nawr beth am S4C?“Mae Ian Jones wedi dweud nad yw e’n erbyn rhannu swyddfeydd gyda’r BBC, wel na fydde hi’n well eu symud nhw i’r gorllewin, neu’r gogledd?”

 “Mae’n rhaid cael swyddi, mae swyddi’n allweddol i gadw’r Cymry Cymraeg yn yr ardaloedd lle mae’r Gymraeg,” ychwanegodd.

 Yn ôl Keith Davies, mae hyn yn arbennig o wir yn Llanelli, lle mae’r toriadau diweddaraf sydd wedi eu cyhoeddi yn Tinopolis – fydd hefyd yn effeithio ar ei wraig ef sy’n gweithio i’r cwmni– yn ergyd pellach i ardal lle mae 8.4% o’r boblogaeth eisoes ar y clwt.

 “Mae Llanelli £42 yr wythnos tu ôl i’r cyflog wythnosol cyfartaledd yng Nghymru, ac £85 tu ôl i’r cyflog wythnosol cyfartaledd ym Mhrydain.

 “Dyna’r sefyllfa yr ydym ni ynddo cyn i ni hyd yn oed sôn am golli’r swyddi hyn yn Tinopolis,” meddai.

 Mae Tinopolis yn dweud fod ganddyn nhw 103 o staff yn gweithio ar Wedi 3 a Wedi 7 ar hyn o bryd, ond maen nhw’n dweud bod y gyllideb yn y cytundeb newydd yn golygu bydd yn rhaid torri’r nifer yna i lawr i 65.

 Ond mae S4C yn mynnu mai penderfyniad Tinopolis yw sut i wario’r £7.8 miliwn ar gyfer y rhaglenni newydd dros y ddwy flynedd nesaf.

 

Catrin Hâf Jones