John Griffiths
Bydd John a Kevs o’r grŵp Llwybr Llaethog yn dathlu dros 25 mlynedd gyda’i gilydd yng Nghlwb Ifor Bach y penwythnos nesaf.
Bydd y noson ‘Chwarter Canrif o Llwybr Llaethog’ yn gyfle i weld y grŵp yn fyw, yng nghwmni rhai o’r artistiaid llu a fu’n cydweithio gyda’r ddeuawd.
Yn ymuno gyda John Griffiths a Kev Ford fydd Rufus Mufasa, Mark Roberts (Y Cyrff, Catatonia), MC Sleifar, Catrin Dafydd, Ed Holden, Ifor ap Glyn a Geraint Jarman.
Bydd Mr Phormula hefyd yn chwarae set ‘beatboxio’ cyn i Llwybr Llaethog gamu ymlaen i’r llwyfan.
Albym Newydd – ‘Curiad Cariad’
“Fydd yr albym newydd ar werth yn y gig hefyd,” meddai John Griffiths.
Cafodd yr albym ei chwpla yn mis Rhagfyr, ond nid albym Nadolig yw hi.
“Jyst wedi digwydd dod allan ’Dolig,” meddai John, sy’n wreiddiol o Flaenau Ffestiniog.
Bodlondeb Tŷ Cnau
Cafodd y trac ‘Bodlondeb Tŷ Cnau’ ei recordio i lawr y ffôn gyda’r canwr arloesol David R. Edwards, tra bod Dave Datblygu yn derbyn triniaeth mewn ysbyty.
“’Nath Kevs ail-weirio derbynnydd ffôn er mwyn plygio fe mewn i’r mixer,” eglurodd John.
“Roedd Dave ddim yn clywed y miwsig o gwbwl, ond mae wedi gweithio allan yn dda iawn.”
Mae Geraint Jarman hefyd yn perfformio ar y trac ‘Hana Be Na’i,’ y tro cyntaf i’r trac byw poblogaidd gael ei recordio.
Hefyd ymhlith y llu o westeion mae Mark Roberts, cyn-ganwr Y Cyrff a gitarydd Catatonia, a’r awdures Catrin Dafydd. Mae’r ddau’n ymddangos ar y trac ‘Gwenu,’ gyda Steffan Cravos AKA MC Sleifar hefyd yn rapio.
Mae’r cryno ddisg ar gael “mewn siopau annibynnol da Cymreig, fel Spiller’s, Cob ac Andy’s Records”.
Neu ewch i www.llwybrllaethog.co.uk
Kevs Ford – y dyn tu ôl i’r sbectol haul
Bydd ffans Llwybr Llaethog yn gyfarwydd gydag anhrefn lliwgar ei gigs, yn enwedig unrhyw un a welodd y perfformiad yn Venice yn 2009. Nid fod John na Kevs Ford yn debygol o gofio’r achlysur yna.
Roedd y ddau yno fel gwesteion John Cael, er mwyn chwarae ym mharti’r gŵr o Rydaman, wrth iddo gyflwyno ei waith ‘Dyddiau Du’ yn Biennale Venice.
Mae Kevs Ford yn adnabyddus i lawer fel ‘un tawel’ y grŵp, sydd efallai’n esbonio sut fu’r ddau yn ffrindiau ac mewn grŵp gyda’i gilydd cyhyd.
Gan ei bod hi’n briodas arian ar y cwpwl arbennig yma, gofynnodd Golwg360 os oedd John wedi cael anrheg addas i Kevs.
“Wnes i gael antique soldiering iron holder iddo fo, o car boot sale.”
Owain Llŷr