Saunders Lewis
Bydd yna ddiwrnod o ‘ddathliadau triphlyg’ yn Ninbych Ddydd Sadwrn, Chwefror 11, i ddathlu hanner can mlynedd ers darlledu darlith radio Saunders Lewis ‘Tynged yr Iaith.’

Mae’r mudiad ‘Popeth Cymraeg’ wedi trefnu diwrnod o ddigwyddiadau, i gyd fynd a thri phen-blwydd.

Bydd y mudiad yn un o’r nifer ar draws Cymru sydd am ddathlu’r achlysur.

Bydd Canolfan Iaith Clwyd, pencadlys Popeth Cymraeg, hefyd yn ugain mlwydd oed.

A bydd yr elusen Gwefr Heb Wifrau yn ddeg mlwydd oed. Mae’r elusen yn  gofalu am yr amgueddfa radio sydd wedi ei lleoli yn y Ganolfan Iaith.

Popeth Cymraeg – Portread Saunders Lewis

Fel rhan o’r digwyddiadau, bydd yr artist Roy Guy yn dadorchuddio ei bortread o’r awdur, gwleidydd ac athronydd Saunders Lewis.

Ac fe fydd yr awdur a hanesydd John Davies yn cyflwyno araith yn Ninbych.

Roedd John Davies wedi chwarae rhan amlwg yn y cyfnod pan ddarlledwyd ‘Tynged yr Iaith’.

Sefydlu Cymdeithas yr Iaith

“Mae’n ddiddorol cael eich ystyried fel ffynhonnell hanesyddol,” dywedodd John Davies wrth Golwg 360.

John Davies oedd wedi awgrymu’r syniad o sefydlu canghennau Cymdeithas yr Iaith, ac fe basiwyd y cynnig yng Nghynhadledd Plaid Cymru 1962.

Bydd Dafydd Iwan yn cadeirio’r noson, sy’n dechrau am 7 o’r gloch yn Neuadd y Dref, Dinbych.

Gallwch archebu tocynnau trwy gysylltu gyda Ioan Talfryn ar 01745 812287 neu trwy e-bostio Ioan@popethcymraeg.com