Carwyn Jones
Fe fydd Prif Weinidog Cymru yn cyhoeddi ei fwriad i sefydlu corff lled-annibynnol i ddatblygu polisi.

Yn ôl Carwyn Jones, fe fyddai’r Sefydliad Polisi Cyhoeddus yn meddwl am syniadau ar gyfer gwella gwasanaethau a chydweithio.

Yn yr un araith heddiw, mae disgwyl i’r Prif Weinidog hefyd ddadlau yn erbyn tynnu elfennau’r farchnad i mewn i wasanaethau cyhoeddus.

Fe fydd yn dadlau bod hynny’n mynd yn groes i egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol a thegwch gan ddweud y bydd y pwyslais yng Nghymru ar fwy o gydweithredu.

Fyddai’r corff newydd, meddai, ddim yn mynd ar draws y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan gyrff syniadau annibynnol fel y Sefydliad Materion Cymreig a Sefydliad Bevan.

Fe ddylai’r Sefydliad, meddai, fod yn annibynnol ar y Llywodraeth ond eto’n cadw cysylltiad agos gyda hi. Roedd yn rhan o faniffesto’r Blaid Lafur yn yr etholiadau diwetha’.

Gwahaniaeth

Fe fydd yr araith mewn cynhadledd yng Nghaerdydd hefyd yn dangos gwahaniaeth clir rhwng y duedd yng Nghymru a Lloegr, lle mae’r Llywodraeth yn rhoi mwy o le i’r farchnad a chystadleuaeth mewn gwasanaethau cyhoeddus.

“Mae yna dystiolaeth glir bod dilyn dulliau’r farchnad yn groes i gydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol – i ni mae’r rhain yn egwyddorion craidd, a rhaid iddyn nhw fod yn sail i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus,” meddai.