Mae’r Cyngor  Celfyddydau wedi cyhoeddi y bydd diwydiant cerddoriaeth Cymru yn derbyn £2.5 miliwn ychwanegol heddiw, er mwyn hyrwyddo’u gwaith yng Nghymru.

Cyhoeddodd Einion Dafydd, Uwch-Swyddog Cerddoriaeth Cyngor y Celfyddydau,  y byddai’r arian ychwanegol yn cael ei roi tuag at bob math o gerddoriaeth yng Nghymru, heblaw cerddoriaeth opera a chlasurol.

Wrth drafod penderfyniad y Cyngor ar raglen Dan yr Wyneb BBC Radio Cymru heddiw, dywedodd Einion Dafydd ei fod yn gobeithio y byddai’r arian yn creu “sector cerddoriaeth cryfach a chodi ymwybyddiaeth o’r gerddoriaeth sy’n cael ei greu yma yng Nghymru.”

Mae’r buddsoddiad, fydd yn cefnogi pob math o gerddoriaeth o roc i bop, o jazz i gerddoriaeth gwerin, yn dilyn blwyddyn a hanner o adolygiad i fuddsoddiadau’r Cyngor Celfyddydau yng Nghymru – ac ymateb y cyhoedd i hynny.

Bydd yr arian yn dod o gyllideb flynyddol y Loteri i’r Cyngor  Celfyddydau.

Dywedodd Einion Dafydd heddiw fod y buddsoddiad yn gyfle i roi arian tuag at sector “nad ydyn ni’n cael ein gweld yn ei gefnogi yn ddiweddar.”

Ond mynnodd mai “arian buddsoddiad, nid subsidy,” fydd y £2.5 miliwn, sydd i gael ei fuddsoddi dros gyfnod o dair blynedd.

Pwrpas yr arian fydd i ddatblygu syniadau, datgblygu meysydd gwaith newydd i gerddoriaeth Gymreig, a thargedu cynulliedfaoedd, yn ôl Einion Dafydd.

“R’yn ni’n gobeithio agor dychymyg y sector,” meddai, “r’yn ni’n sylweddoli bod angen chwystrelliad o arian yn y diwydiant.”

Dywedodd y byddai’r cyngor yn cydweithio â chyrff eraill ar draws Cymru er mwyn ceisio gwireddu amcanion y buddsoddiad newydd, gan gynnwys Sefydliad Cerddoriaeth Cymru.