Toilet symudol
Mae’r Prifardd Ifor ap Glyn wedi bod yn crwydro o doilet i doilet ar gyfer ei raglen ddiwedddara’ ar S4C.

Bydd fersiwn Saesneg o Tai Bach y Byd hefyd, i’w dangos ar BBC4.

 “Mae wedi bod yn syniad genna’i ers blynyddoedd,” meddai Ifor ap Glyn wrth Golwg360 heddiw.

Fe gafodd y syniad am raglen ar ôl darllen am dai bach Cymru.

“Yn wreiddiol trwy ddarllen llyfrau Aelwyn Roberts, sydd wedi ysgrifennu dau lyfr am doiledau Cymru,” eglura’r cyflwynydd.

 “Mae’r prosiect yn cwmpasu hanes y toiled, yn hanes cymdeithasol, ac yn hanes dylunio ‘y toiled’ yn ein diwylliant ni, o’i gymharu â phobl eraill.”

Pwysigrwydd y tŷ bach

Mae Ifor ap Glyn yn pwysleisio bod toilet yn gallu bod yn bwnc difrifol a phwysig.

Os oes toiled ar gael, mae tlodion yn llai tebygol o farw o heintiau mewn dŵr yfed, megis colera.

“Mae 2.6 biliwn o bobl yn y byd heb doiled, ac mae’n ffaith amlwg fod pobl yn byw yn hirach mewn gwledydd sydd â mwy o doiledau

“Dw i newydd ddod nôl o Dhaka, yn Bangladesh, ac roedd y slymiau yna’n rhyfeddol.”

Bu’n crwydro Bangladesh wledig hefyd, yn gweld carthffosiaeth wrth ymyl y ffordd.

“Mae’n sobreiddio dyn.”

Gwobrau’r Pŵ

Yn ogystal â’r dwys o Fangladesh bydd blas yn y rhaglen o Wobrau’r Pŵ Euraidd yn Llundain.

Bydd Tai Bach y Byd i’w gweld fis Ebrill.