Mari Emlyn
Mae un o sêr y ddrama Rownd a Rownd yn gadael y gyfres eleni, er mwyn gweithio i ganolfan gelfyddydau yn y gogledd.

Yr actores a’r awdures Mari Emlyn sydd wedi bod yn chwarae rhan Jaci y ddynes trin gwallt yn y gyfres boblogaidd ers sawl blwyddyn bellach.

Ond mae’n troi at her newydd wrth ddod yn Gyfarwyddwraig Artistig canolfan Galeri yng Nghaernarfon fis Ebrill.

Fe fydd hi’n olynu Elen ap Robert, sydd wedi ei phenodi’n Gyfarwyddwr Artistig ar ganolfan gelf Pontio sy’n y broses o gael ei chodi ym Mangor.

Roedd Mari Emlyn yn cyfadde’ wrth Golwg 360 y byddai’n “chwith iawn gadael Rownd a Rownd,” ond fod y swydd newydd yn golygu ei bod hi’n “symud ymlaen at her newydd.”

“Doeddwn i ddim yn edrych i adael Rownd a Rownd o gwbwl,” meddai, “ond fe welais i’r swydd, ac roedd o yn apelio,” eglurodd.

 Dydi’r actores o’r Felinheli ddim yn gwybod yn union sut y bydd hi’n ymadael â’r gyfres eto, ond yn y gorffennol mi gollodd ei chymeriad Jaci fab mewn tân.

 “Dw i’n siwr bydd ’sgwennwyr Rownd a Rownd yn crafu pen sut mae cael gwared ar Jaci nawr,” meddai, ond mae’n dweud mai nhw fydd yn penderfynu sut mae hi’n gadael.

 “Efallai ca’i ddiweddglo mor gyffrous â Denzil!”

 ‘Gwthio ffiniau’

 Wrth siarad â Golwg 360, dywedodd mai’r her greadigol oedd un o’r pethau mawr oedd yn ei denu at y swydd, yn enwedig y posibilrwydd o “wthio ffiniau” gydag arlwy’r Galeri.

“Mae Galeri wedi sefydlu ei hun erbyn hyn, a hynny yn un o drefi Cymreiciaf Cymru,” meddai Mari Emlyn.

“Ond be sy’n rhaid cofio ydy bod sawl Caernarfon i’w cael, ac mae’n rhaid darparu ar gyfer bob un o’r rhain.”

Olynu ffrind…

Bydd Mari Emlyn yn llenwi esgidiau un y mae wedi ei nabod ers yr ysgol feithrin – sef Elen ap Robert – sydd yn symud i fod yn Gyfarwyddwr Artistig newydd canolfan Pontio ym Mangor.

Mae’r ddwyn byw ym mhentref y Felinheli ger Bangor.

“Mae Elen wedi gwneud gwaith da iawn o ’mlaen i,” meddai, “a dw i’n edrych ymlaen at gydweithio gyda hi yn y dyfodol.”

Mae’r ddwy eisoes wedi bod yn trafod y cyfnod cyffrous newydd i’r ddau ganolfan – “fe fuon ni ar y ffôn am awr a hanner neithiwr yn trafod,” meddai.

Er ei bod hi’n dweud nad oes unrhyw syniadau pendant ganddi am ddatblygu’r ganolfan eto, mae’n dweud fod “gwaith caled Elen” wedi ei rhoi mewn sefyllfa da i adeiladu ar beth sydd gan y Galeri i’w gynnig.

A dydi hi ddim yn credu bydd y gystadleuaeth rhwng y Galeri a chanolfan gelfyddydol newydd Pontio ym Mangor, yn ormod o broblem i’r ddwy ffrind.

“Mae yna rhywfaint o gystadleuaeth yn mynd i fod, oes, ond mae demograffeg Bangor a Chaernarfon mor wahanol, dw i’n meddwl mai cydweithio gydag ychydig o gystadleuaeth iach fydd hi.”

 Catrin Hâf Jones