Rhys Priestland
Bydd y maswr Rhys Priestland a’r canolwr Jamie Roberts yn chwarae yn erbyn Iwerddon yng ngêm gyntaf tîm rygbi Cymru eleni.

Roedd pryderon am ffitrwydd y ddau fu’n serennu yng Nghwpan Rygbi’r Byd y llynedd.

Alex Cuthbert o Gaerdydd sy’n camu i esgidiau’r dewin Shane Williams ar yr asgell.

Mi fydd James Hook, maswr Perpignan, ar y fainc ar gyfer gêm gyntaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Bydd y gic gyntaf am dri o’r gloch prynhawn ddydd Sul.

CYMRU: Leigh Halfpenny; Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North; Rhys Priestland, Michael Phillips; Rhys Gill, Huw Bennett, Adam Jones, Bradley Davies, Ian Evans, Ryan Jones, Sam Warburton (C), Toby Faletau.
Eilyddion: Ken Owens, Paul James, Andy Powell, Justin Tipuric, Lloyd Williams, James Hook, Scott Williams

Bennett yn cyrraedd hanner cant o gapiau

Bydd y bachwr Huw Bennett yn cyrraedd hanner cant o gapiau yn erbyn Iwerddon. Fe yw’r ail fachwr i wneud hyn, gyda Garin Jenkins o’i flaen e ar 58 o gapiau.

Yn ymuno gyda Bennett yn y rheng flaen fydd Rhys Gill o’r Saraseniaid, yn lle Gethin Jenkins, sydd hefyd wedi cael anaf i’w ben-glin. Dyma fydd ail gap Gill, yn dilyn ei gêm gyntaf yn erbyn Iwerddon yn Croke Park yn 2010.

Y Llew Prydeinig blewog Adam Jones fydd yn cwblhau’r rheng flaen.

Mi fydd yna ail gap hefyd i asgellwr y Gleision, Alex Cuthbert, yn dilyn ei gap cyntaf yn erbyn Awstralia cyn y Nadolig. Cuthbert sy’n cael y dasg anodd o geisio cymryd lle Shane Williams yn y tîm, er mai George North fydd yn chwarae ar yr asgell chwith.

Gweddill y tîm

Jonathan Davies o’r Sgarlets a Jamie Roberts o Gaerdydd fydd yn chwarae ynghanol cae, a hynny yn erbyn tîm Iwerddon sy’n wynebu’r gêm heb eu capten gwych Brian O’ Driscoll.

Mae Scott Williams, y canolwr addawol a ddaeth i amlygrwydd yng Nghwpan y Byd 2011, ar y fainc.

Mike Phillips fydd yn safle’r mewnwr, gyda Lloyd Williams yn ei gysgodi ar y cyrion.

Mae Ryan Jones wedi camu i’r tîm yn lle Dan Lydiate, sydd wedi anafu ei ffêr. Bydd y capten Sam Warburton ac wythwr ifanc y Dreigiau Toby Faletau yn ymuno gyda Jones er mwyn brwydro rhes gefn byd enwog y Gwyddelod.

Ian Evans a Bradley Davies yw’r ddau glo.

Iwerddon am ddial

“Rydym ni’n ddau dîm sydd yn ’nabod ein gilydd yn dda,” meddai’r Prif Hyfforddwr Warren Gatland.

“Fydd Iwerddon ddim wedi mwynhau colli i ni yn Seland Newydd, a byddan nhw am dalu’r pwyth yn ôl yn Nulyn y penwythnos yma.”

“Ond fe fyddwn ni mewn hwyliau’r un mor benderfynol â nhw.” 

Owain Llŷr