Harry Redknapp
Mae rheolwr Spurs Harry Redknapp wedi cyfaddef iddo roi’r wybodaeth anghywir i newyddiadurwr chwaraeon y News of the World.
Roedd hyn mewn ymdrech i sicrhau na fuasai stori yn ymddangos yn y papur Dydd Sul wrth i’w dîm Tottenham Hotspur baratoi i chwarae yn rownd derfynol Cwpan y Gynghrair yn 2009.
Wrth ymddangos heddiw am yr ail ddiwnrod yn Llys y Goron Southwark, ar gyhuddiadau o osgoi talu treth, dywedodd: “Does ddim rhaid i fi ddweud y gwir wrth Ron Beasley. Mae’n rhaid i fi ddweud y gwir wrth yr heddlu, ond nid Mr Beasley, mae’n newyddiadurwr y News of the World.”
‘Ddim yn gelwyddgi’
“Dwi ddim yn gelwyddgi,” dywedodd Redknapp, ond roedd rhoi y wybodaeth anghywir i’r newyddiadurwr yn cynnig “ffordd hawdd allan.”
Mae Harry Redknapp yn wynebu cyhuddiadau o dderbyn taliadau bonws yn dilyn gwerthu a phrynu chwaraewyr, gan osgoi talu’r treth.
Honnir iddo dderbyn £93,100 rhwng Ebrill 2002 a Tachwedd 2007, a £96,300 rhwng Mai 2004 a Tachwedd 2007.
Talwyd yr arian i gyfrif cudd yn Monaco, yn dwyn yr enw ‘Rosie 47,’ sef enw ci Redknapp ar y pryd, a blwyddyn geni Redknapp.
Mae’r achos yn parhau.