Cafodd o leia 74 o bobl eu lladd a channoedd eu hanafu ar ôl  i terfysg yn ystod gêm  bêl-droed yn ninas Port Said yn yr Aifft.

Roedd degau o gefnogwyr wedi rhedeg ar y maes chwarae yn dilyn y gem ar ôl i’r tîm cartref, Al-Masry, golli yn erbyn un o brif glybiau’r wlad Al-Ahly, sydd wedi eu lleoli yn Cairo. Fe arweiniodd at wrthdaro rhwng y cefnogwyr ac fe fethodd yr heddlu i reoli’r dorf.

Bu farw nifer o gefnogwyr yn y rhuthr i adael y stadiwm.

‘Fel rhyfel’

Dywedodd un o’r chwaraewyr  bod yr olygfa “fel rhyfel, nid gêm  bêl-droed” ac mae nifer wedi beirniadu’r heddlu am beidio â ymyrryd yn y gwrthdaro.

Mewn cyfweliad i’r orsaf deledu ONTV dywedodd gol-geidwad Al-Ahly , Sharif Ikrami, gafodd ei anafu yn y gwrthdaro, bod y meirw a’r rhai oedd wedi eu hanafu yn cael eu cludo i mewn i’r ystafelloedd newid.

“Roedd na bobl yn marw o’n blaenau ni,” meddai. “Rydan ni i gyd wedi penderfynu na fyddan ni’n chwarae pel-droed o hyn ymlaen. Sut allen ni chwarae pan mae 70 o bobl wedi marw?”

Cairo

Yn Cairo, roedd cefnogwyr oedd wedi eu cythruddo ar ôl i’r gem yno gael ei ganslo oherwydd y trafferthion yn Port Said, wedi rhoi’r stadiwm ar dân. Ni chafodd neb eu hanafu yn y digwyddiad yno.

Roedd yn bennod waedlyd arall yn hanes y wlad bron i flwyddyn ar ôl i’r cyn Arlywydd Hosni Mubarak gael ei ddisodli.

Fe fydd Senedd yr Aifft yn cynnal cyfarfod brys heddiw ac mae awdurdodau’r wlad wedi galw am ymchwiliad i’r terfysg.

Mae tridiau o alaru wedi cael ei gyhoeddi yn y wlad heddiw.