Alun Ffred Jones
Mae cyhoeddiad cwmni Tinopolis ei bod yn cau ei swyddfa yn Nghaernarfon yn “ergyd greulon” i’r staff a gwylwyr S4C, yn ôl  Aelod Cynulliad Arfon.

Roedd Alun Ffred Jones yn ymateb i’r cyhoeddiad ddoe fod Tinopolis, sy’n gyfrifol am raglenni cylchgrawn dyddiol Wedi 3 a Wedi 7,  i gau ei swyddfa yn y Galeri, Caernarfon gan gael gwared â naw o swyddi.

Fe gyhoeddwyd hefyd y bydd cytundeb y cyflwynwyr Gerallt Pennant a Meinir Gwilym yn dod i ben ddiwedd mis Chwefror.

Fe fydd Wedi 3 a Wedi 7 yn cael eu hailwampio fel rhan o arlwy newydd gan S4C.

‘Cwtogi ciaidd’

Dywedodd Alun Ffred Jones: “Mae hyn yn ergyd greulon i deuluoedd y rhai fydd yn colli eu swyddi, i Ganolfan Galeri ac i dref Caernarfon, sydd eisoes wedi dioddef llawer yn sgil toriadau yng nghyllid S4C. Ond bydd hefyd yn golled i wylwyr y sianel gan fod safon y rhaglenni yn sicr o ddioddef.

“Mae’r penderfyniad yma’n deillio yn y lle cyntaf o’r cwtogi ciaidd ar gyllideb y sianel gan lywodraeth yn Llundain na ddangosodd unrhyw gydymdeimlad â darlledu Cymraeg, na dealltwriaeth o’r anghenion.”

Ond dywedodd hefyd bod  dyletswydd hefyd ar S4C a’r cwmniau cynhyrchu i flaenoriaethu eu hadnoddau fel bod gwahanol rannau o Gymru’n cael chwarae teg.

“Mae Wedi 3 a Wedi 7 wedi ennill eu plwy trwy sefydlu perthynas glos gyda’u cynulleidfa, na fyddai wedi bod yn bosib heb bresenoldeb gweladwy yn nau begwn y wlad. Mae’n anodd gweld sut y gall unrhyw raglen gylchgrawn gynnal ei safon heb gadw’r cytbwysedd hwnnw,” meddai.

Cytundeb newydd

Ym mis Rhagfyr fe gyhoeddodd Tinopolis, sydd â’i bencadlys yn Llanelli, y byddai  27 o weithwyr Wedi 3Wedi 7 yn colli eu gwaith yn sgil cwtogi ar gyllideb rhaglenni dyddiol S4C.

Fis Hydref y llynedd roedd Tinopolis wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi llwyddo i gadw gafael ar gytundeb i ddarparu rhaglenni cylchgrawn i S4C. Mae’r cytundeb newydd yn dechrau yn wythnos gyntaf mis Mawrth.

Ymateb Tinopolis

Roedd pennaeth Tinopolis, Ron Jones, wedi ymateb ar ran y cwmni: “Roedd Wedi 7 a Wedi 3 yn raglenni â chyllideb oedd yn caniatáu dwy eitem o wahanol gymunedau o Gymru dros loeren bob nos.

“Gyda thoriad o 65% yr awr i gyllideb y gwasanaeth newydd gan S4C, mae’n dilyn na all y rhaglenni newydd yma wneud popeth oedd o fewn gallu Wedi 7 a Wedi 3.

“Un effaith uniongyrchol arall i’r toriadau, sy’n cynnwys colli 38 o staff, yw cau’r swyddfa yn Galeri, Caernarfon. Mae hyn yn peri tristwch mawr i ni, er y byddwn yn gwneud popeth o fewn cyfyngiadau’r gyllideb i wasanaethu’r gwylwyr ffyddlon dros Gymru gyfan.

“Mae gwaith ein tîm yn y Gogledd wedi bod yn amhrisiadwy dros y blynyddoedd ac mae’n siom enfawr  gorfod ffarwelio â Gerallt Pennant a Meinir Gwilym, gan fod S4C wedi penderfynu nad oes lle iddynt yn rhan o’r gwasanaeth newydd sy’n fwy tabloid ei naws”.

‘Adlewyrchu Cymru gyfan’

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad dywedodd Ian Jones, Prif Weithredwr S4C mai mater i’r cwmni yw penderfynu ynglŷn â lefelau staffio a lleoliadau swyddfeydd.

“Mae Tinopolis wedi ennill tendr gwerth £5.1m i gynnal gwasanaeth cylchgrawn cyfoes sydd yn cynnwys rhaglen gylchgrawn nosweithiol rhwng nos Lun a nos Iau. Yn ogystal â chyflwyno eitemau hamdden a sgyrsiau gyda gwesteion, bydd y rhaglen hefyd yn  cynnwys adroddiadau ar gamera fydd yn rhoi sylw i straeon a phynciau o gymunedau ledled Cymru. Ryda ni wedi nodi o’r dechrau’r pwysigrwydd i adlewyrchu Cymru gyfan.

“Mater i’r cwmni yw penderfynu ynglŷn â lefelau staffio a lleoliadau swyddfeydd, ond ryda ni’n hyderus y bydd y rhaglen newydd yn cynrychioli Cymru gyfan a barn bobl o bob cwr o Gymru yn unol â gofynion Gweledigaeth 2012 a chynlluniau a brand Calon Cenedl S4C.

“Mae Tinopolis hefyd wedi ennill cytundeb mewn tendr agored i ddarparu rhaglen adloniadol nos Wener fydd yn paratoi’r gynulleidfa at y penwythnos – cytundeb sy’n werth £2.7m.”