Yn ôl adroddiadau ar BBC Cymru prynhawn ma mae dau o gyflwynwyr Wedi 7 wedi colli eu cytundeb gyda chwmni Tinopolis.
Fe fydd cytundeb Gerallt Pennant a Meinir Gwilym yn dod i ben ddiwedd mis Chwefror.
Mae Tinopolis, sydd â’u pencadlys yn Llanelli, hefyd yn bwriadu cau eu swyddfa yn Galeri yng Nghaernarfon.
Ym mis Rhagfyr fe gyhoeddodd y cwmni y byddai 27 o weithwyr Wedi 3 a Wedi 7 yn colli eu gwaith yn sgil cwtogi ar gyllideb rhaglenni dyddiol S4C.
Fe ddywedodd Angharad Mair wrth Golwg360 ar y pryd nad oedd “dewis gyda ni yn sgil y toriad yn y gyllideb i’r rhaglenni dyddiol newydd”.
Fis Hydref y llynedd roedd Tinopolis wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi llwyddo i gadw gafael ar gytundeb i ddarparu rhaglenni cylchgrawn i S4C. Mae’r cytundeb newydd yn dechrau yn wythnos gyntaf mis Mawrth.
Ymateb Tinopolis
Mae pennaeth Tinopolis, Ron Jones, wedi ymateb ar ran y cwmni: “Roedd Wedi 7 a Wedi 3 yn raglenni â chyllideb oedd yn caniatáu dwy eitem o wahanol gymunedau o Gymru dros loeren bob nos.
“Gyda thoriad o 65% yr awr i gyllideb y gwasanaeth newydd gan S4C, mae’n dilyn na all y rhaglenni newydd yma wneud popeth oedd o fewn gallu Wedi 7 a Wedi 3.
“Un effaith uniongyrchol arall i’r toriadau, sy’n cynnwys colli 38 o staff, yw cau’r swyddfa yn Galeri, Caernarfon. Mae hyn yn peri tristwch mawr i ni, er y byddwn yn gwneud popeth o fewn cyfyngiadau’r gyllideb i wasanaethu’r gwylwyr ffyddlon dros Gymru gyfan.
“Mae gwaith ein tîm yn y Gogledd wedi bod yn amhrisiadwy dros y blynyddoedd ac mae’n siom enfawr gorfod ffarwelio â Gerallt Pennant a Meinir Gwilym, gan fod S4C wedi penderfynnu nad oes lle iddynt yn ran o’r gwasanaeth newydd sy’n fwy tabloid ei naws”.